Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 23 Mehefin 2026
Cliriwyd llystyfiant o ran o'r gamlas a oedd wedi gordyfu diolch i gydymdrechion y Cyngor a grwpiau gwirfoddol.
Gwnaed gwaith i dynnu planhigion galinsoga’r dŵr o'r gamlas yn Nwy Loc, yng Nghwmbrân, ddoe ar ôl darganfod pysgod marw yn yr ardal yn gynharach y mis hwn.
Credir bod y pysgod wedi marw oherwydd gostyngiad yn lefelau’r ocsigen a achoswyd gan gyfuniad o ordyfiant y planhigion, gostyngiad yn lefelau’r dŵr a’r tywydd poeth fis diwethaf.
Fe fu gwirfoddolwyr o Bridge 46 a Chymdeithas Pysgota Cwmbrân, yn gweithio ochr yn ochr â chydlynydd y gamlas, Chris Wyatt, a chynghorwyr, i glirio sianel un metr o led a 100 metr o hyd, yn dilyn cymeradwyaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rhoddwyd y planhigion mewn bag a'u gadael ar yr ochr i dîm Strydlun y Cyngor eu casglu.
Bydd y gwaith yn helpu i sicrhau bod llif y dŵr a lefelau’r ocsigen yn cael eu cynnal wrth i’r rhagolygon addo mwy o dywydd poeth yr wythnos hon.
Meddai Tracey Leake-Jones, o grŵp Bridge 46: "Tua thair wythnos yn ôl disgynnodd yr ocsigen yn syfrdanol. Roedd yn ffenomen naturiol — roedd yna bwysau atmosfferig penodol, ac roedd gwres a diffyg llif yn lleihau'r ocsigen, ac nid oedd y pysgod yn gallu goroesi, felly roedd hynny'n drist ofnadwy.
"Felly i geisio gwella pethau i'r bywyd gwyllt, ac i geisio sicrhau na fyddai hynny'n digwydd eto, rydym wedi ceisio creu sianel trwyddo i gynyddu'r llif.
"Unwaith roedd y tymor bridio drosodd, roedden nhw wedi dweud wrthym mai bwriad Torfaen oedd gwneud y darn hwn yn llwyr gyda pheiriannau, ond ar y pryd pŵer pobl oedd yno."
Meddai Chris Wyatt: "Hoffwn ddiolch i'r gwirfoddolwyr sydd wedi dod at ei gilydd i ffurfio gweithgor ar y cyd i fynd i'r afael â'r problemau yn Nwy Loc.
"Roedd angen i ni aros am ganllawiau gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gael gwared ar y planhigion gan fod angen gwneud y gwaith yn ofalus i leihau unrhyw darfu ar y silt, a allai wneud y sefyllfa’n waeth.
"Fe fu’r gwirfoddolwyr yn ein helpu i ymateb yn brydlon ac yn gyfrifol er budd y bywyd
gwyllt lleol a defnyddwyr y gamlas. Y cam nesaf fydd i ni ddod o hyd i gyllid er mwyn i gontractwyr wneud gwaith clirio ar raddfa fwy yn nes ymlaen yn y flwyddyn, gyda chefnogaeth ein grwpiau cymunedol gwerthfawr."
Yn gynharach y mis hwn, helpodd gwirfoddolwyr o Bridge 46 a Chymdeithas Pysgota Cwmbrân i gael gwared ar y pysgod marw a'r sbwriel o’r ardaloedd yn Nwy Loc. Cafodd y pysgod eu gwaredu'n ddiogel gan dîm Strydlun y Cyngor.