Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 3 Mawrth 2026
Bydd naw sefydliad yn derbyn cyllid ar gyfer prosiectau sydd â’r bwriad o wella iechyd a lles yn eu cymunedau lleol.
Gofynnwyd i gynghorwyr nodi cynlluniau lleol a fydd yn helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella gwytnwch, yn unol â’r Fargen: Torfaen newydd.
Gwahoddwyd y sefydliadau wedyn i wneud cais i Gronfa Gymunedol Strategol yr Aelodau i gael grantiau hyd at £15,000. Roedd y prosiectau canlynol yn llwyddiannus:
- CBC Torfaen Talks - £13,520 ar gyfer gwasanaeth cynghori pobl ifanc.
- Blaenavon Blues - £13,100 i gefnogi cynlluniau i ailddatblygu’r adeiladau.
- Reflect and Refocus - £12,860 ar gyfer cyrsiau emosiynol a lles i ddynion a menywod dros 50 oed.
- The Hwb Torfaen - £12,828 ar gyfer gweithgareddau o gaffi newydd, gan gynnwys grwpiau sy’n canolbwyntio ar iechyd.
- Hope GB - £12,750 ar gyfer gwasanaethau cymorth niwroamrywiol.
- Coedwedd - £12,322 i grŵp cymorth cymheiriaid lles ac iechyd meddwl a sesiynau un wrth un
- Thornhill 4 U too - £12,120 i wella’u neuadd a gweithgareddau gwirfoddoli.
- Clwb Rygbi Cwmbrân - £8,500 i gefnogi rhwydweithiau cymdeithasol iechyd a lles y clwb i gyn-filwyr a phobl hŷn.
- CBC Clwb Cymdeithasol Cymunedol Forgehammer - £2,000 ar gyfer prosiect celf greadigol iechyd a lles.
Dywedodd Patrick Downes, o CBC Torfaen Talks, sy'n cynnal nifer o wasanaethau llesiant: "Rydym ni’n credu y dylai cymorth iechyd meddwl a lles fod i bawb. Bydd yr arian yma’n talu'n uniongyrchol am gostau llogi ystafelloedd, gan ganiatáu i'n gwirfoddolwyr ddarparu sesiynau hanfodol ledled y gymuned yn ystod y dydd a gyda’r hwyr.
"Drwy bartneriaeth drwy'r Fargen, rydym wedi ymrwymo i Dorfaen iachach, mwy gwydn lle mae llesiant yn hawl, nid yn fraint."
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Anthony Hunt: "Mae hon yn enghraifft wych o sut y gall y cyngor gefnogi mentrau cymunedol sydd wedi'u nodi a'u datblygu gan yr arbenigwyr - y gymuned ei hun.
"Mae hyn yn gyson iawn â’r Fargen Torfaen newydd, sy'n ffordd newydd o weithio a fydd yn gweld y cyngor, grwpiau cymunedol a phartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i wella bywydau trigolion lleol, gwneud cymunedau'n fwy gwydn, a diogelu ein gwasanaethau sector cyhoeddus i’r dyfodol."
Cymeradwywyd Cronfa Grantiau Cymunedol Strategol Aelodau gwerth £100,000 ym mis Ebrill y llynedd, fel rhan o benderfyniad i ddyrannu £800,000 o'r Gronfa Dewis yr Aelodau.
Gwnaed cyfanswm o 12 cais, a chafodd naw ohonynt eu cymeradwyo ar gyfer cyllid gan swyddogion y cyngor a Chynghrair Wirfoddol Torfaen.