Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 3 Mawrth 2026
Mae pedwar o gynghorau Gwent wedi cymryd cam beiddgar tuag at wireddu eu huchelgais i arwain chwyldro digidol yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru trwy benodi Paul Jefford yn Brif Swyddog Gweithredol y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir (SRS).
Gyda phrofiad helaeth mewn uwch swyddi gyda chewri byd-eang, gan gynnwys Barclays, ING UK a Hewlett Packard, mae Paul wedi cael ei dynnu i mewn er mwyn ailddiffinio’n gyflym ac mewn ffordd radical y ffordd y mae Cynghorau’n meddwl am, yn defnyddio ac yn mabwysiadu atebion digidol, data a thechnolegol.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd SRS, y Cyng. Richard Clark: "Mae Paul yn ymuno â SRS ar adeg dyngedfennol yn ei ddatblygiad. O dan arweiniad y Prif Swyddog Gweithredol blaenorol, Matt Lewis, mae SRS wedi gosod seiliau cryf ar gyfer trawsnewidiad digidol ledled y rhanbarth."
Mae SRS, a sefydlwyd yn 2010 i ddarparu gwasanaethau TG i Gyngor Torfaen, Cyngor Sir Fynwy, a Heddlu Gwent, wedi ehangu i gynnwys Cyngor Casnewydd a Chyngor Blaenau Gwent. Llynedd, ychwanegodd yr awdurdodau lleol gyfrifoldebau digidol a data at gyfrifoldebau strategol SRS, gan greu llwyfan cadarn ar gyfer mabwysiadu technolegau newydd yn gyflym iawn.
Ychwanegodd y Cyng. Clark: "Mae cynghorau’n wynebu galw a disgwyliadau cynyddol gan drigolion sydd am gael gwasanaethau digidol cyflym pan fo galw. Mae penodiad Paul yn adlewyrchu lefel yr uchelgais ar draws y pedwar cyngor i sicrhau fod gwasanaethau digidol nid yn unig yn wydn ac yn ddiogel, ond eu bod hefyd yn flaengar, yn canolbwyntio ar y dinesydd ac yn gallu addasu’n gyflym mewn hinsawdd ddigidol sy’n esblygu’n gyflym.
"Mae digido’n cynnig ateb i’r heriau yma gydag offer â Deallusrwydd Artiffisial i helpu gweithwyr rheng flaen cynghorau i roi ymateb cyflymach, cefnogaeth well, a mynediad 24/7 at wasanaethau allweddol. Mae hyn i gyd yn cael ei wneud mewn ffordd gyfrifol, ddiogel, ac yn unol â gwerthoedd Cymreig, gan sicrhau bod y buddion yn aros yn ein cymunedau."
Wrth siarad am ei rôl newydd, dywedodd Paul: “Rwy’n llawn cyffro o fod yn adeiladu ar y seiliau cryf sydd yma eisoes ac o fod yn gweithio gyda’n partneriaid i ddatgloi potensial llawn trawsnewidiad digidol ar draws Gwent. Mae’n anodd gorbwysleisio’r cyfle sydd gyda ni yma, a, gyda’n gilydd, gallwn greu gwasanaethau modern, gwydn sydd wir yn diwallu anghenion ein cymunedau yn y dyfodol.”