Wedi ei bostio ar Dydd Iau 5 Mawrth 2026
Yr wythnos hon, cymerodd cyngor Torfaen ei gyllideb derfynol a gosododd lefelau treth cyngor ar gyfer 2026/27.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cyng. Anthony Hunt: "Diolch i reolaeth ariannol ddarbodus, rydym wedi llwyddo i ddod â chyllideb gytbwys i'r cyngor sy'n buddsoddi yn ein hysgolion; yn buddsoddi mewn ymyrraeth gynnar ac atal; yn gofalu am y rhai mwyaf agored i niwed; yn buddsoddi mewn ffyrdd ac yn diogelu gwasanaethau rheng flaen; yn cynnal casgliadau gwastraff cyffredinol a chasgliadau ailgylchu wythnosol bob pythefnos ac yn ein galluogi i gefnogi grwpiau a chlybiau cymunedol lleol lle maen nhw’n ein helpu i gyflawni ein Bargen Torfaen.
"Mae hefyd yn sicrhau ein bod yn arwain y ffordd ar fod yn gyflogwr teg; yn ehangu ein cynllun prentisiaethau; ac mae o fudd i'n staff ar y cyflog isaf fel cynorthwywyr dysgu, staff ffreutur ysgolion, cynorthwywyr gofal a gweithwyr sbwriel ac ailgylchu ac yn osgoi nifer fawr o ddiswyddiadau. Nid yw hon yn gyllideb o driciau, atebion cyflym, geiriau bachog i’r cyfryngau cymdeithasol neu benderfyniadau sydyn sy'n cadw problemau ar gyfer blynyddoedd i ddod."
Bydd y cyngor yn derbyn £58.6 miliwn o'r dreth gyngor yn 2026/27 sy'n cynrychioli tua 16% o gyllid y cyngor.
Er mwyn helpu trigolion sydd fwyaf angen cymorth gyda'r dreth gyngor, mae'r cyngor yn gweinyddu Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor, sy'n helpu bron i 10,000 o drigolion ar incwm isel.
Ychwanegodd y Cyng. Hunt: "Mae'r rhagolwg ariannol yn parhau i fod yn heriol gyda bwlch cyllido o £10.2 miliwn i'w dalu dros bedair blynedd o fis Ebrill 2027 ymlaen, ond diolch i arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru eleni a'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud i yrru effeithlonrwydd, mae hon yn gyllideb gadarnhaol sy'n osgoi toriadau i wasanaethau ac mae wedi galluogi cynnydd is i'r dreth gyngor nag a gynigiwyd i ddechrau.
"Mae cadw'r dreth gyngor i lawr yn gyson â'n dull dros y pedair blynedd diwethaf, lle mae biliau yn Nhorfaen wedi codi llai nag unrhyw le arall yng Nghymru – sy'n golygu mai Torfaen yw’r pedwerydd isaf o ran biliau yn y wlad erbyn hyn."
Mae’r gyllideb yn cynnwys:
- £4.5 miliwn neu tua 5.5% o gynnydd i dalu cynnydd cyflog a phwysau mewn ysgolion
- Cyllideb flynyddol o £300,000 ar gyfer cynnal a chadw ac adnewyddu TG mewn ysgolion
- £250,000 i gefnogi prentisiaethau a £400,000 pellach ar gyfer prentisiaethau newydd i rai sy’n gadael yr ysgol
- £1.6 i gynnal gwasanaethau i ryw 952 o gleientiaid Gofal Cymdeithasol Oedolion.
- £600,000 o’r arian wrth gefn i leihau’r galw am leoliadau gofal yn y Gwasanaethau Plant
- £260.000 i gynyddu capasiti yn y gymuned a chefnogi pob ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae hyn ar gyfer adeiladu Capasiti Cymunedol hefyd.
- £447,000 i fodloni pwysau chwyddiant ar y Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor, ar sail 9,321 o achosion ar hyn o bryd
- £617,000 i fodloni pwysau ariannu Trafnidiaeth Ysgol ac anghenion dysgu ychwanegol
- £346,000 i ysgolion i wella cefnogaeth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
- £700,000 i ariannu effaith y cyflog byw gwirioneddol ar gyfer y staff ar gyflogau isaf yn y Cyngor
- Tua £2.3 miliwn ar gyfer costau chwyddiant yng nghyflog staff yn ehangach
- £147,000 i fynd i’r afael â phwysau costau yn y Gwasanaeth Gwastraff gyda £183,000 o fuddsoddiad ychwanegol yn y Tîm Addysg a Gorfodaeth Gwastraff
- £170,000 i helpu pobl ifanc a theuluoedd sy’n dioddef trais domestig a £200,000 i helpu i atal plant rhag mynd i mewn i ofal
- Help i ddarparwyr gofal cymdeithasol y fwrdeistref fodloni cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol.
Dros y pum mlynedd nesaf bydd £73 miliwn yn cael eu buddsoddi yn y Fwrdeistref Sirol mewn gwaith cyfalaf. Y flwyddyn nesaf, bydd y Cyngor yn buddsoddi mewn nifer o brosiectau cyfalaf, gan gynnwys Ysgol Bryn Onnen, Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd, ac £2.4 miliwn pellach mewn cynnal a chadw priffyrdd, gan gynnwys heolydd a phalmentydd.
Mae cyllid yn cael ei roi hefyd i nifer o gynlluniau, gan gynnwys grantiau i glybiau chwaraeon a grantiau cyllid cyfatebol ar gyfer gweithgareddau cymunedol gydag arian Dewis yr Aelodau yn cefnogi Gwanwyn Glân cymunedol. Cytunwyd hefyd y byddai tanwariant cyllideb yn y flwyddyn eleni yn cael ei ddefnyddio i greu cronfa i fuddsoddi ym mlaenoriaethau’r gymuned ar gyfer Bargen Torfaen.