Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2025
Does dim newidiadau i ddiwrnodau casglu yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig.
Ond, fe fydd newidiadau i'r casgliadau rhwng Dydd Nadolig a dydd Sul 4 Ionawr.
Dyddiadau casglu:
|
Dyddiad casglu arferol
|
Dyddiad casglu diwygiedig
|
|
Dydd Iau 25 Rhagfyr
|
Dydd Sadwrn 27 Rhagfyr
|
|
Dydd Gwener 26 Rhagfyr
|
Dydd Sul 28 Rhagfyr
|
|
|
|
|
Dydd Llun 29 Rhagfyr
|
Fel arfer
|
|
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr
|
Fel arfer
|
|
Dydd Mercher 31 Rhagfyr
|
Fel arfer
|
|
Dydd Iau 1 Ionawr 2026
|
Dydd Gwener 2 Ionawr
|
|
Dydd Gwener 2 Ionawr
|
Dydd Sadwrn 3 Ionawr
|
Gair i’ch atgoffa – rhaid rhoi’r holl wastraff a’r deunyddiau i’w hailgylchu allan cyn 6am ar y diwrnod casglu.
Bydd ein criwiau’n brysur dros ben dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, felly os fyddan nhw wedi colli eich gwastraff a’ch deunydd i’w ailgylchu, gadewch nhw allan nes iddyn nhw gael eu gwacau.
Sbwriel bagiau du ychwanegol
Diolch i ymdrechion gwych ein trigolion a gwaith ein tîm addysg a gorfodi ailgylchu, mae ailgylchu wedi gwella’n arbennig o dda – aeth y gyfradd ailgylchu gwastraff bwyd i fyny 16% ym mis Hydref.
Er mwyn eich helpu dros gyfnod yr Ŵyl, byddwn yn caniatáu i chi roi un bag du ychwanegol o wastraff sydd ddim yn gallu cael ei ailgylchu, allan gyda'ch bin â chlawr porffor cyntaf ar gyfer y casgliad ar ôl y Nadolig.
Rydyn ni'n gwybod bod y Nadolig yn gallu creu ychydig mwy o wastraff nag arfer, ond cofiwch – gallwch ailgylchu mwy nag erioed wrth ymyl y palmant. Defnyddiwch y bag ychwanegol dim ond os oes gwir ei angen arnoch.
Ar ôl y casgliad cyntaf hwnnw, parhewch i ailgylchu cymaint â phosibl a dilynwch bolisi ailgylchu'r Cyngor trwy beidio â rhoi unrhyw wastraff allan ar yr ochr.
Cardiau Nadolig
Gallwch ailgylchu cardiau Nadolig plaen yn y bag glas.
Allwn ni ddim ailgylchu cardiau sydd ag unrhyw beth ychwanegol arnynt fel gliter a rhubanau, felly beth am ddefnyddio'r rhain eto’r flwyddyn nesaf ar gyfer labeli/tagiau anrhegion?
Papur lapio
Dim ond papur lapio brown neu lwyd plaen sy’n gallu cael ei ailgylchu yn y bag glas.
Allwn ni ddim ailgylchu unrhyw bapur lapio sgleiniog,neu bapur lapio sy'n cynnwys plastig, tâp gludiog neu gliter, gan ei fod wedi'i wneud o ormod o ddeunyddiau gwahanol. Rhowch y papur hwn yn y bin â chlawr porffor neu ei ailddefnyddio.
Coed Nadolig go iawn
Os oes gennych goeden Nadolig go iawn, ar ôl iddi ddod i ddiwedd ei hoes, gallwch fynd â hi i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref i'w rhwygo a'i defnyddio fel compost. Gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu unrhyw addurniadau yn gyntaf.
Gwastraff bwyd
Gallwch roi unrhyw wastraff bwyd nad oes nodd ei osgoi, fel bagiau te ac esgyrn cig, yn y cadi gwastraff bwyd brown.
Peidiwch ag anghofio y gallwch ddefnyddio unrhyw fag plastig i leinio’ch cadi gwastraff bwyd.
Cyn ailgylchu unrhyw wastraff bwyd, edrychwch ar Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff | Atal gwastraff bwyd i ddod o hyd i ryseitiau blasus ar gyfer bwyd sydd dros ben.
Podiau Coffi
Gallwch ailgylchu Podiau Coffi nawr yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Rhowch unrhyw bodiau plastig ac alwminiwm mewn bag ar wahân, a'u rhoi'n rhydd yn y cynhwysydd ar y safle.
Ffoil
Gellir ailgylchu ffoil ond rhaid ei fod yn lân.
Felly, gallwch ailgylchu'r hambwrdd ffoil y mae eich mins peis yn dod ynddo, ond os yw'r ffoil rydych chi'n coginio'ch twrci ynddo yn seimllyd iawn, allwn ni ddim ei ailgylchu.
Ailddefnyddiwch unrhyw ffoil lle bo modd, a meddyliwch am ddefnyddio deunyddiau bwyd eraill y gellir eu hailddefnyddio i storio a diogelu eich bwyd Nadolig.
Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Mae'r safle ar agor bob dydd rhwng 10am a 3.45pm ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan pan fydd ar gau. Mynediad olaf i'r safle i gerbydau yw 3:45pm.
Cyn dod i'r safle, gwnewch yn siŵr eich bod wedi didoli eich gwastraff a'ch deunyddiau i’w hailgylchu, a gwiriwch a oes angen trwydded ar eich cerbyd ai peidio. Rhagor o wybodaeth am drwyddedau cerbydau | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Hefyd, peidiwch ag anghofio bod angen rhyw fath o ID arnoch nawr i fynd i mewn i'r ganolfan ailgylchu. Darganfyddwch pa fathau o ID y gallwch eu defnyddio
Y Steelhouse
Gallwch roi eitemau o ansawdd da i siop ailddefnyddio Y Steelhouse, ger Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dafarn Newydd.
Oriau agor dros y Nadolig:
|
Dyddiad
|
Amserau agor
|
|
Dydd Mercher 24 Rhagfyr
|
9.30am - 1pm
|
|
Dydd Iau 25 Rhagfyr
|
Ar gau
|
|
Dydd Gwener 26 Rhagfyr
|
Ar gau
|
|
|
|
|
Dydd Llun 29 Rhagfyr
|
9.30am - 4.30pm
|
|
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr
|
9.30am - 4.30pm
|
|
Dydd Mercher 31 Rhagfyr
|
9.30am - 1pm
|
|
Dydd Iau 1 Ionawr 2026
|
Ar gau
|
|
Dydd Gwener 2 Ionawr
|
9.30am - 4.30pm
|
Y Caffi Trwsio
Mae'r Caffi Trwsio ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ar gau o ddydd Iau 18 Rhagfyr a bydd yn ailagor ddydd Mercher 7 Ionawr 2026.
Rhagor o wybodaeth am ailgylchu