Gorchymyn i siop yng Nghwmbrân gau er mwyn atal ymddygiad troseddol a gwrthgymdeithasol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 2 Chwefror 2024
20240201_140103

Mae siop yn Hen Gwmbrân wedi cael Gorchymyn Llys, yn gofyn iddi gau am dri mis, yn dilyn camau gweithredu gan Dîm Safonau Masnach y Cyngor.

Mewn ymateb i honiadau am siop o’r enw ‘Pink Lady Vape’ yn 22 Victoria Street, Hen Gwmbrân, daeth swyddogion o Dîm Safonau Masnach y Cyngor o hyd i dystiolaeth fod y siop yn cyflenwi fêps nad ydynt yn cydymffurfio â safonau cynnyrch, a’i bod yn gwerthu fêps i blant.

Ddydd Iau 1 Chwefror 2024, cafwyd gwrandawiad gerbron Llys Ynadon Casnewydd, ac ar ôl ystyried tystiolaeth gan Swyddogion Safonau Masnach, rhoddwyd Gorchymyn Cau i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol pellach rhag digwydd yn yr ardal.     

Mae’r Gorchymyn yn gwahardd mynediad i’r safle, ac eithrio trwy drefniant ymlaen llaw a chytundeb ysgrifenedig penodol gan y Cyngor.

Mae’n drosedd torri Gorchymyn Cau a gallai arwain at garchar am gyfnod o dri mis, dirwy anghyfyngedig, neu’r ddau.

Meddai Daniel Morelli, Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Diogelu’r Cyhoedd, “Mae Gorchymyn Cau yn bŵer cyflym a hyblyg y mae Safonau Masnach yn cael ei ddefnyddio i gau safle sy’n cael ei ddefnyddio, neu sy’n debygol o gael ei ddefnyddio, i gyflawni trosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.”

“Nid yw fêps anghyfreithlon yn bodloni safonau cynnyrch a chafwyd achosion lle maen nhw wedi cynnwys sylweddau a chemegau niweidiol, a allai fod yn niweidiol i iechyd, yn enwedig ymhlith plant.”

“Mae Tîm Safonau Masnach y Cyngor yn gyfrifol am orfodi cyfres o ddeddfwriaethau sy’n rheoli gwerthiant nwyddau, a bydd yn cymryd camau cadarn i ddiogelu’r cyhoedd a busnesau cyfreithlon rhag y perygl o niwed.”

“Buaswn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw bryderon am siopau sy’n gwerthu fêps yn anghyfreithlon i gysylltu â Thîm Safonau Masnach y Cyngor.”

Mae cefnogi plant, yn ogystal â’r gymuned yn ehangach, rhag sylweddau a chynnyrch niweidiol, yn cefnogi Cynllun Sirol y Cyngor trwy hyrwyddo plant, pobl ifanc a theuluoedd, er mwyn iddynt ffynnu. Rhagor o wybodaeth am y Cynllun Sirol. 

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu tybaco neu fêps anghyfreithlon gysylltu â Thîm Safonau Masnach Torfaen ar 01633 647623 neu anfon neges e-bost i trading.standards@torfaen.gov.uk

Rhagor o wybodaeth am safonau masnach

Diwygiwyd Diwethaf: 02/02/2024 Nôl i’r Brig