Erlyn gwerthwr ar Facebook am werthu dillad ffug

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 3 Mai 2024

Mae masnachwr o Bont-y-pŵl sy’n gwerthu ar Facebook wedi pledio'n euog i werthu a meddu ar ddillad ffug gan gynnwys North Face, Chanel, Nike a Dior.

Yn dilyn ymchwiliad gan dîm Safonau Masnach y cyngor, canfuwyd bod Rachael Lloyd o Maple Road, De Sebastopol, Pont-y-pŵl, yn gwerthu eitemau ffug ar ei safle ei hun ar Facebook, a oedd yn cynnwys dros 1000 o aelodau. 

Yn dilyn prawf prynu a arweiniodd at warant i fynd i’w chyfeiriad, cafwyd hyd i nifer o gynhyrchion yn dwyn ‘brand’ yr oedd hi wedi bod yn eu gwerthu, a chanfuwyd eu bod yn ffug.

Ymddangosodd Lloyd yn Llys Ynadon Cwmbrân ddydd Iau 25 Ebrill gan bledio'n euog i 11 cyhuddiad mewn perthynas â mynd yn groes i Ddeddf Nodau Masnach 1994.

Derbyniodd ddirwy o £200, gordal dioddefwr o £80, a gorchmynnwyd iddi dalu costau'r cyngor, sef £1000.52, felly’n creu cyfanswm o £1280.52.  Gorchmynnodd y llys hefyd bod yr eitemau ffug yn cael eu cymryd ymaith a’u dinistrio.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Economi a'r Amgylchedd, “Dylai pobl sy’n credu y gallant wneud arian trwy werthu nwyddau ffug trwy'r cyfryngau cymdeithasol ystyried hyn o ddifri. 

“Mae tîm Safonau Masnach y cyngor yn gweithio'n galed iawn i fynd i'r afael â gwerthu a chyflenwi eitemau ffug.

“Nid yw pobl sy'n cael eu dal yn gwerthu eitemau o'r fath mewn perygl o gael dirwy drom neu garchar yn unig - gellir ymchwilio i'w cefndir ariannol hefyd, a gall y llys atafaelu unrhyw arian neu asedau na allant brofi sydd wedi'u hennill yn gyfreithlon.

“Yn gyffredinol, mae'r cynhyrchion hyn o ansawdd gwael a chafwyd eu bod yn beryglus yn y gorffennol. Rwy'n gofyn i drigolion i brynu nwyddau gan fân-werthwyr parchus neu achrededig yn unig. Trwy brynu nwyddau ffug, mae defnyddwyr yn cefnogi masnachwyr anghyfreithlon a throseddol ac mae hynny yn ei dro yn niweidio busnesau cyfreithlon.”

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am nwyddau ffug gysylltu â thîm Safonau Masnach y cyngor ar 01633 647623 neu e-bostio trading.standards@torfaen.gov.uk

Canfod mwy am safonau masnach

 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 03/05/2024 Nôl i’r Brig