Wedi ei bostio ar Dydd Llun 20 Hydref 2025
Cynhaliodd Heddlu Gwent ymarfer hyfforddi yn Ysgol Gynradd Coed Efa yn gynharach heddiw.
Yn gweithio gyda staff yr ysgol, roedd y tîm yn ceisio gwella’r ymateb brys i ddigwyddiadau mawr posibl a gwella prosesau cloi'r ysgol.
Ffugiodd swyddogion ddigwyddiad lle gwelwyd dau gi XL Bully yn neidio ar aelodau’r cyhoedd ger yr ysgol.
Yn y senario, aeth un o’r cŵn i mewn i’r ysgol, cafodd yr ysgol ei chloi ac anfonwyd personél heddlu ac ambiwlans i’r ardal.
Dilynodd staff yr ysgol eu protocolau diogelwch, gan sicrhau bod yr holl blant yn ddiogel yn eu hystafelloedd dosbarth yn yr adeilad, a gweithiodd swyddogion heddlu a phersonél y gwasanaethau brys eraill gyda’i gilydd i ddal y cŵn a diogelu’r safle a’r ardaloedd o gwmpas.
Roedd yr ymarfer yn canolbwyntio ar sut roedd yr asiantaethau ymateb yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau diogelwch pawb yn yr ysgol.
Roedd comander arian yn goruchwylio’r ’digwyddiad’ o ystafell reoli Heddlu Gwent yn Llantarnam, gan rannu gwybodaeth amser real gyda swyddogion ar y safle.
Roedd ci lles Heddlu De Cymru, Carter, yn rhan o’r digwyddiad ac roedd ar y safle trwy gydol yr ymarfer.
Meddai Prif Uwch-arolygydd Jason White:
“Er bod y senario ar gyfer y digwyddiad yn anghyffredin, mae’n bwysig ein bod yn cymryd rhan yn y diwrnodau hyfforddiant hyn i wneud yn siŵr, pe byddai rhywbeth mawr yn digwydd, ein bod ni wedi paratoi ac yn barod i gadw pawb mor ddiogel â phosibl.
“Roedd yr ymarfer yn brofiad dysgu gwych i’r rheini sy’n rheoli adnoddau yn yr ystafell reoli a swyddogion ar lawr gwlad. Rhoddodd gyfle i ni brofi pa mor dda rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol.
“Wrth reswm, mae digwyddiadau mewn ysgolion yn gallu achosi braw a gofid sylweddol ymysg cymunedau, felly mae cyfathrebu clir, tryloyw a chywir yn ystod y digwyddiadau hyn yn hanfodol, a chafodd hynny ei drafod trwy gydol yr ymarfer hefyd.”
Meddai Andrew Powles, Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Torfaen: “Hoffwn ddiolch i staff a disgyblion Ysgol Gynradd Coed Efa am gefnogi’r ymarfer hwn. Mae gan bob ysgol weithdrefnau cloi mewn lle ar gyfer perygl posibl, sy’n galluogi gwasanaethau brys i asesu ac ymdrin â’r sefyllfa yn y ffordd gyflymaf a mwyaf diogel.
"Mae ymarferion fel yr un yma’n rhoi prawf ar ymateb amlasiantaeth fel y gall staff, disgyblion a rhieni fod yn dawel eu meddyliau bod prosesau ar waith i sicrhau diogelwch y plant bob amser.”