Gwerthu alcohol, fêps a chyllyll i blant

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 31 Hydref 2025
underage-sales_crop

Gwerthwyd alcohol, fêps a chyllyll i blant o dan 16 oed yn ystod ymgyrch profi-trwy-brynu yr wythnos hon.

Fe fu tîm Safonau Masnach y Cyngor a chadetiaid o Heddlu Gwent yn ymweld â 29 o siopau yn y Fwrdeistref, i geisio prynu eitemau sydd ond yn gallu cael eu gwerthu'n gyfreithlon i bobl dros 18 oed.

Gwerthwyd naw eitem â chyfyngiad oedran arnynt i'r cadetiaid mewn chwe siop ar draws Pont-y-pŵl a Chwmbrân, gan gynnwys cyllyll, alcohol a chynhyrchion fêpio a oedd yn cynnwys nicotin.

Atgoffwyd y mân-werthwyr am y gyfraith ynghylch gwerthu nwyddau â chyfyngiad oedran arnynt a'r angen i wirio oedran unrhyw un sy'n ceisio prynu eitemau o'r fath. Mae swyddogion nawr yn ymchwilio i'r troseddau hyn, gyda'r bwriad o ystyried camau gorfodi lle bo hynny'n briodol.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Hoffwn ddiolch i'n Swyddogion Safonau Masnach a Heddlu Gwent am eu hymdrechion i ddod o hyd i siopau sy'n gwerthu eitemau i blant a chynnig cyngor i'w helpu i gydymffurfio â'r gyfraith a diogelu plant.

"Mae’n destun pryder pan fydd gan fân-werthwyr bolisïau a gweithdrefnau cynhwysfawr sy'n ymwneud â gwerthu nwyddau i blant a phobl ifanc o dan yr oedran cyfreithlon, ond mae’n amlwg nad ydyn nhw’n cael eu gweithredu'n effeithiol.

"Mae hyn yn dangos pwysigrwydd gwiriadau annibynnol a gan Swyddogion Safonau Masnach i amddiffyn plant rhag y perygl o gael niwed.

"Meddai’r Arolygydd Lee Stachow o Heddlu Gwent: "Mae cyfyngiadau oedran ar eitemau am reswm, i gadw plant yn ddiogel, ac mae'n siomedig gweld bod rhai busnesau'n methu yn eu dyletswyddau i gadw at y gyfraith, gan ddiystyru pa mor niweidiol y gallai eu gweithredoedd fod.

"Mae ein cadetiaid yn chwarae rhan greiddiol wrth ddal y mân-werthwyr hynny sy'n torri'r gyfraith, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid, gan gynnal yr ymgyrchoedd hyn, i sicrhau bod y busnesau hynny'n cael eu herlyn a'u dal i gyfrif."

Gall busnesau sy'n methu’n barhaus yn eu dyletswydd gyfreithiol i beidio â gwerthu i blant o dan yr oedran cyfreithlon, gael eu herlyn a'u dirwyo.

Pan fo trwydded alcohol ar waith, gallai’r awdurdod lleol hefyd gyflwyno cais i'w hadolygu, a gallai hynny arwain at gyfyngu ar y drwydded neu hyd yn oed ei dileu.

Anogir unrhyw un sydd â phryderon am werthu cynhyrchion â chyfyngiad oedran arnynt i gysylltu â Safonau Masnach.

Gellir eu cyrraedd trwy e-bost - trading.standards@torfaen.gov.uk neu dros y ffôn ar 01495 762200. Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei thrin yn gyfrinachol.

Diwygiwyd Diwethaf: 31/10/2025 Nôl i’r Brig