Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 9 Gorffennaf 2025
Mae perchennog cwmni garddio tirwedd wedi cael ei ddedfrydu ar ôl cael ei gael yn euog o dwyllo cwsmeriaid.
Cyhuddwyd Ian Wheeler o gwmni Gwent County Construction Ltd, o gymryd hyd at £26,620 gan saith cwsmer am waith na wnaeth ei gwblhau neu a gafodd ei wneud yn wael.
Ddydd Llun, ymddangosodd Mr Wheeler yn Llys y Goron, Caerdydd wedi'i gyhuddo o un drosedd o dan Ddeddf Twyll 2006 a chwe throsedd o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008, yn dilyn sawl cwyn i Dîm Safonau Masnach Cyngor Torfaen.
Derbyniodd ddedfryd ohiriedig o chwe mis am droseddau diogelu defnyddwyr a dedfryd ohiriedig o dri mis am y cyhuddiad o dwyll, y ddau wedi'u gohirio am 15 mis. Gorchmynnwyd iddo hefyd gwblhau 120 awr o wasanaeth cymunedol a mynychu rhaglen adsefydlu.
Rhoddwyd Gorchymyn Iawndal o £24,920, i'w ad-dalu fesul £800 pob mis dros 2 flynedd ac 8 mis. Gall methu â thalu arwain at garchar.
Clywodd y llys fod Mr Wheeler, o Bont-y-pŵl, wedi dod o hyd i gwsmeriaid ar Facebook ac wedi gofyn iddynt dalu blaendal o 50 y cant ymlaen llaw.
Mewn tri achos ni chafodd unrhyw waith ei wneud, gydag amrywiaeth o esgusodion yn cael eu rhoi, gan gynnwys argyfyngau teuluol, problemau iechyd, a phroblemau gyda'i fan.
Mewn pedwar achos, cafodd ychydig iawn o waith ei wneud – a hynny at safon wael. Yn eiddo un person, adeiladodd Mr Wheeler wal a syrthiodd o fewn wythnosau ar ôl cael ei hadeiladu.
Talodd Siobhan Anderson a'i gŵr, o Gasnewydd, flaendal o £4,000 i Mr Wheeler iddo drawsnewid eu gardd flaen yn dramwyfa.
Wrth siarad ar ôl yr achos, dywedodd Siobhan: "I ddechrau, roedd Ian yn ymddangos yn broffesiynol. Rhoddodd dderbynneb i ni a oedd yn cynnwys dyddiad cychwyn tua mis i'r dyfodol. Ni chafodd unrhyw ddeunydd ei gludo atom wrth i amser fynd heibio, ac roedd y dyddiad cychwyn yn agosáu.
"Gallaf gofio wyth mis ar ôl talu'r blaendal i Ian ddanfon neges at fy ngŵr yn gofyn i ni pa ddraeniad roedden ni eisiau. Roeddwn i'n meddwl fod hyn yn rhyfedd oherwydd ar y pwynt hwn, roeddwn i wedi sylweddoli nad oedd yn mynd i wneud y gwaith.
"Fe wnaethon ni ryddhau arian o flaendal pellach ar ein morgais i gwblhau'r swydd, y byddwn yn talu llog arno am amser hir.
"Rydyn ni'n cael trafferth bob dydd gyda pharcio ac yn anffodus nid oes gennym yr arian i allu cael unrhyw un arall i wneud y gwaith."
Dywedodd Daniel Morelli, Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd: "Mae'r ddedfryd hon yn danfon neges glir y bydd masnachwyr twyllodrus sy'n manteisio ar ac yn twyllo trigolion yn cael eu dal yn atebol.
"Achosodd Mr Wheeler broblemau ariannol ac emosiynol sylweddol i'w ddioddefwyr, a ymddiriedodd eu harian iddo. Yn ogystal â'r effaith uniongyrchol ar ddioddefwyr, mae ei weithredoedd hefyd yn tanseilio gallu busnesau ag enw da i fasnachu mewn amgylchedd teg.
"Mae ein Tîm Safonau Masnach wedi ymrwymo i amddiffyn ein cymunedau rhag arferion twyllodrus o'r fath, ac i gefnogi masnachwyr dilys a gonest, a byddwn yn ymdrechu i sicrhau cyfiawnder i'r rhai sy’n cael eu heffeithio.
"Mae'n bwysig cofio y gall unrhyw un ddioddef sgamiau a masnachwyr twyllodrus, felly ni ddylai pobl deimlo cywilydd, a dylent ddeall bod ein swyddogion yma i'w diogelu."
I roi gwybod am bryderon am adeiladwyr a thirlunwyr, ffoniwch Linell Gymorth Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133, a gallan nhw roi cyngor a rhoi gwybod i’ch Tîm Safonau Masnach lleol am eich cwyn.