Wedi ei bostio ar Dydd Iau 6 Tachwedd 2025
Cafodd Jenna Morgan, 41, o Sebastopol, ddirwy o £660, gorchmynnwyd iddi dalu £888 mewn costau, a gordal dioddefwr o £264 gan Lys Ynadon Cwmbrân.
Cafodd Miss Morgan ei herlyn o dan Adran 108, Deddf yr Amgylchedd 1995 am fethu â chynorthwyo'r cyngor gyda'i ymholiadau, yn dilyn digwyddiad tipio anghyfreithlon yng Nghwmbrân.
Yn dilyn adroddiad gan y cyhoedd ym mis Ionawr 2025, darganfuwyd bod saith bag o sbwriel a oedd yn cynnwys gwastraff o’r cartref, wedi eu dympio yn Oakfield Road.
Cafwyd hyd i fanylion Miss Morgan, a gwnaed ymholiadau i geisio egluro'r amgylchiadau, ond methodd ag ymateb.
Rhoddwyd hysbysiad cyfreithiol iddi o dan Adran 108, Deddf yr Amgylchedd 1995 yn galw arni i gymryd rhan mewn cyfweliad ond ni wnaeth ei fynychu.
O ganlyniad, cafodd Miss Morgan ei herlyn am fethu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad Adran 108.
Methodd â mynychu’r gwrandawiad yn Llys Ynadon Cwmbrân ym mis Hydref, ond profwyd y drosedd yn ei habsenoldeb.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae peidio â chydymffurfio â hysbysiad cyfreithiol Adran 108 i gynorthwyo ymchwiliad yn drosedd, a byddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol lle bo hynny'n briodol i alluogi ein swyddogion i gyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol.
Gallwch roi gwybod am dipio anghyfreithlon drwy wefan y cyngor neu ap FyNhorfaen.