Dirwyo menyw am fethu â chynorthwyo ymchwiliad tipio anghyfreithlon

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 24 Ebrill 2026
flytipping

Mae menyw wedi cael gorchymyn i dalu dros £1,400 am fethu â chynorthwyo’r Cyngor gydag ymchwiliad i ddigwyddiad tipio anghyfreithlon. 

Cafodd Mrs Linda Pring, 40, o Garndiffaith, ddirwy o £660, a gorchmynnwyd iddi dalu costau'r cyngor o £496.86 a gordal dioddefwr o £264 yn Llys Ynadon Cwmbrân.

Cafodd Mrs Pring ei herlyn am fethu â chydymffurfio â hysbysiad cyfreithiol a gyhoeddwyd o dan Adran 108 Deddf yr Amgylchedd 1995, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol iddi gynorthwyo'r cyngor gyda'i ymholiadau yn dilyn digwyddiad tipio anghyfreithlon yng Nghwmbrân.

Dechreuodd yr ymchwiliad ar ôl i adroddiad gael ei dderbyn ym mis Awst 2025 ynglŷn â 10 bag o wastraff cartref wedi'u dipio ar dir yn Farm Lane, Tal-y-waun.

Cafwyd hyd i fanylion Mrs Pring ymhlith y gwastraff a gwnaeth swyddogion ymholiadau i weld sut ddigwyddodd y tipio anghyfreithlon, ond methodd ag ymateb.

Rhoddwyd hysbysiad cyfreithiol wedyn yn ei gwneud yn ofynnol iddi fynychu cyfweliad ffurfiol, ond methodd â chydymffurfio.

O ganlyniad, erlynwyd Mrs Pring am fethu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad. Ni ddaeth i’r gwrandawiad yn Llys Ynadon Cwmbrân ddoe, a phrofwyd y drosedd yn ei habsenoldeb.

Dywedodd Daniel Morelli, Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd a'r Amgylchedd: "Mae peidio â chydymffurfio â hysbysiad cyfreithiol o dan Adran 108 Deddf yr Amgylchedd 1995 yn drosedd. 

"Byddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol lle bo hynny'n briodol i sicrhau bod ein swyddogion yn gallu cyflawni eu dyletswyddau i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon."

Gallwch ddweud am dipio anghyfreithlon trwy wefan y cyngor neu ap FyNhorfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/04/2026 Nôl i’r Brig