Taclo nwyddau ffug

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 21 Mawrth 2024

Mae perchennog busnes o Gwmbrân wedi pledio’n euog i werthu gorchuddion ffonau symudol ffug.

Ar ddydd Mawrth, 20 Rhagfyr 2023 cafodd y busnes ymweliad gan dîm Safonau Masnach y cyngor ar ôl iddyn nhw dderbyn gwybodaeth bod ffonau symudol ffug ar gael.

Gwelwyd trwy’r arolwg fod 190 o orchuddion ffonau symudol ar werth, gan gynnwys brandiau fel Apple, Burberry, Louis Vuitton, Gucci ac Adidas.  Gwerth y nwyddau go iawn cyfatebol o’u gwerthu oedd dros £44,000. 

Ar ddydd Iau, 14 Mawrth, yn Llys Ynadon Cwmbrân, plediodd Mr. Kulwinder Singh, cyfarwyddwr Trendzphone Ltd, 8a The Mall Shopping Centre, Cwmbrân, yn euog i 13 cyhuddiad o dan y Ddeddf Nodau Masnach 1994, yn ymwneud â gwerthu a chyflenwi gorchuddion ffug ar gyfer ffonau symudol.

Cafodd Mr Singh ddirwy o £3,500, a’i orchymyn i dalu costau’r Cyngor o £1,282.56, a gordal dioddefwyr o £1,400, cyfanswm o £6,182.56.  Gorchmynnodd y llys hefyd fforffedu’r nwyddau.   

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae’r achos hwn yn dangos yn glir ymrwymiad ein tîm Safonau Masnach i gynnal amgylchedd masnach teg a diogel yn Nhorfaen.

“Ni fyddwn yn oedi wrth gymryd camau yn erbyn y rheiny sy’n diystyru’r gyfraith ac yn gwerthu nwyddau ffug.

“Rydym yn annog busnesau i gyd i gadw at y gyfraith ac i ddefnyddwyr fod yn wyliadwrus.  Cofiwch, os yw bargen yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei bod.”

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthiant nwyddau ffug gysylltu â’r tîm Safonau Masnach ar 01495 762200 neu trwy e-bost at trading.standards@torfaen.gov.uk

Gall unrhyw un sy’n rhedeg busnes yn Nhorfaen, neu sy’n ystyried gwneud, gysylltu â Thîm Cyswllt Busnes y cyngor i gael cyngor. 

Gallwch gysylltu â’r tîm ar 01633 648735 neu drwy e-bost at businessdirect@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 21/03/2024 Nôl i’r Brig