Gorchymyn siop ym Mhont-y-pŵl i gau am dair wythnos

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Ebrill 2024

Mae siop yng nghanol tref Pont-y-pŵl wedi cael gorchymyn i gau am dair wythnos.

Mewn ymateb i honiadau am ‘Ponty Mini-market’, a enwyd gynt yn ‘Alan’s Store’ ym Mhont-y-pŵl, cafodd swyddogion o Dîm Safonau Masnach y Cyngor dystiolaeth fod e-sigarennau a thybaco ffug yn cael eu gwerthu yn y siop.

Defnyddiodd y tîm rymoedd o dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i wneud cais am Orchymyn Cau. 

Ar ddydd Mawrth, 9 Ebrill 2024, cafwyd gwrandawiad yn Llys Ynadon Casnewydd, ac ar ôl clywed tystiolaeth gan Swyddogion Safonau Masnach, rhoddwyd Gorchymyn Cau er mwyn atal ymddygiad troseddol a gwrthgymdeithasol pellach rhag digwydd yn yr ardal

Mae’r gorchymyn yn gwahardd mynediad i’r eiddo, heblaw trwy drefniad ymlaen llaw a chytundeb ysgrifenedig penodol y cyngor.

Mae torri Gorchymyn Cau’n drosedd, a gallai arwain at gyfnod o dri mis o garchar, a dirwy heb gyfyngiad, neu’r ddau.

Dywedodd Daniel Morelli, Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd a’r Amgylchedd: “Mae Gorchymyn Cau’n bŵer cyflym a hyblyg sy’n gallu cael ei ddefnyddio gan gynghorau i gau eiddo sy’n cael ei ddefnyddio, neu sy’n debygol o gael ei ddefnyddio i droseddu neu i ymddwyn yn wrthgymdeithasol.”

“Nid yw e-sigarennau anghyfreithlon yn bodloni safonau cynnyrch ac maen nhw’n gallu cynnwys sylweddau a chemegolion niweidiol a allai fod yn niweidiol i iechyd, yn enwedig i blant.”

“Bydd Tîm Safonau Masnach y Cyngor yn cymryd camau cadarn i ddiogelu’r cyhoedd a busnesau dilys rhag y risg o niwed.”

“Buaswn i’n annog unrhyw un sydd â phryderon am siopau’n gwerthu e-sigarennau’n anghyfreithlon neu nwyddau ffug i gysylltu â Thîm Safonau Masnach y Cyngor.”

Dywedodd y Sarjant Annalea Kift, Partneriaeth a Chymunedau gyda Heddlu Gwent: “Mae gwaith rhagweithiol ardderchog wedi ei wneud i dargedu gwerthu sigarennau ac e-sigarennau anghyfreithlon yn Nhorfaen.

"Rydym wedi ymrwymo i wneud cymunedau’n fwy diogel ac yn fannau gwell i fyw a gweithio ynddynt, a byddwn bob amser yn gweithio’n agos â’n partneriaid a thrigolion lleol i sicrhau ein bod yn cyflawni hyn.

"Dylid dweud am unrhyw droseddau o werthu cynhyrchion smygu wrth Safonau Masnach."

Mae diogelu plant, yn ogystal â’r gymuned ehangach, rhag sylweddau a chynhyrchion niweidiol yn cefnogi Cynllun Sirol y Cyngor trwy hyrwyddo plant, pobl ifanc a theuluoedd, fel y gallan nhw ffynnu. Darllenwch fwy am y Cynllun Sirol

 

Gall unrhyw un â gwybodaeth am werthiant tybaco ffug neu e-sigarennau anghyfreithlon gysylltu â thîm Safonau Masnach Torfaen ar 01633 647623 neu drwy e-bost at trading.standards@torfaen.gov.uk

 

Diwygiwyd Diwethaf: 12/04/2024 Nôl i’r Brig