Ymafael mewn tybaco anghyfreithlon mewn ymgyrch ar y cyd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 8 Gorffennaf 2025

Cynhaliwyd ymgyrch ar y cyd rhwng swyddogion Safonau Masnach a Heddlu Gwent i dargedu’r rheiny sy’n gwerthu sigaréts anghyfreithlon.

Llwyddodd swyddogion i ymafael mewn swmp o dybaco a sigaréts ffug yng Nghwmbrân a Phont-y-pŵl

Cafodd y dyn rybudd a bydd ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal a allai arwain at erlyniad.

Daeth y swyddogion o hyd i 20 pecyn 50g o dybaco i’w rolio â llaw a 10 pecyn o sigaréts heb y rhybuddion iechyd neu farciau treth sy'n ofyniad cyfreithiol ar y pecyn.

Meddai Daniel Morelli, Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd: "Mae masnachu tybaco a sigaréts mewn ffordd anghyfreithlon yn creu marchnad rhad ar gyfer y cynhyrchion hyn a allai apelio at blant a phobl ifanc. Mae hefyd yn tanseilio'r gwaith da sy'n cael ei wneud i atal pobl rhag smygu, ac yn aml mae masnachu tybaco anghyfreithlon yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol ehangach.

“Mae'r ymgyrch hon ar y cyd hwn rhwng y Cyngor a Heddlu Gwent yn dangos ein cyd-ymrwymiad i ddiogelu iechyd y cyhoedd a'r economi rhag peryglon tybaco  anghyfreithlon. Bydd ein Tîm Safonau Masnach yn parhau i gymryd camau llym yn erbyn y rheiny sy'n gysylltiedig â'r fasnach anghyfreithlon hon.”

Dywedodd yr Arolygydd Lee Stachow, Heddlu Gwent: “Mae ein tîm plismona yn y gymdogaeth yn gweithio’n rheolaidd gyda phartneriaid, fel adran safonau masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, i warchod a rhoi sicrwydd i’n cymunedau ac i daclo tor-cyfraith yn y sir.

“Bydd unrhyw eitemau anghyfreithlon a gaiff eu darganfod yn ystod y cyrchoedd yma ar y cyd yn cael eu cymryd gan yr awdurdodau, a byddwn yn dal y rheiny sy’n gyfrifol i gyfrif.

“Rydym yn ymroddedig at gynyddu diogelwch yn ein cymunedau a gwarchod pobl fregus rhag niwed.

"Os oes gyda chi bryderon am eiddo trwyddedig sy’n gweithredu’n anghyfreithlon yn eich ardal, dywedwch wrth yr adran safonau masnach.”

Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu neu ddosbarthu nwyddau ffug, gan gynnwys tybaco anghyfreithlon, i gysylltu â'r Tîm Safonau Masnach drwy ffonio 647623 01633 neu anfon neges trwy e-bost i trading.standards@torfaen.gov.uk   

Cewch ragor o wybodaeth am safonau masnach yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/07/2025 Nôl i’r Brig