Rheoli Cefn Gwlad Torfaen

Mae'r cyfrifoldeb am reoli'r cefn gwlad yn Nhorfaen yn perthyn i amrywiaeth o wahanol sefydliadau gan gynnwys ffermwyr / tirfeddianwyr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a chyrff cyhoeddus eraill.

Mae gan Dîm Economi ac Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ran bwysig i'w chwarae o ran rheoli Cefn Gwlad yn yr ardal. Gwna hyn drwy weithio mewn partneriaeth ag ystod eang o sefydliadau fel Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, sy'n darparu cymorth grant i waith prosiect penodol, a grwpiau sector gwirfoddol gan gynnwys Cymdeithas y Cerddwyr, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Chadwch Gymru'n Daclus.

Mae'r Cyngor yn rheoli tir sy'n eiddo iddo ac mae hefyd yn helpu ac yn annog eraill i reoli eu tir eu hunain er budd y cyhoedd yn gyffredinol, i annog adfywio economaidd, i hyrwyddo a rhoi cyfleoedd am hamdden anffurfiol, ac i wella bioamrywiaeth.

Nodir y camau sy'n cael eu cymryd i warchod a gwella bioamrywiaeth yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Torfaen, sydd ar gael gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Gwnaethpwyd llawer o welliannau amgylcheddol a mynediad, yn benodol yn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon. Ymhlith y rhain fu creu Pyrth i'r dirwedd a datblygu 'Llwybr Mynydd Haearn'. sef taith gylch ag arwyddbyst drwy dirwedd Safle Treftadaeth y Byd.

Ymhlith y mentrau bioamrywiaeth cafwyd gwelliannau i gynefinoedd yng Ngwarchodfa Natur Llynnoedd Garn a Phrosiect Tirweddau Angof ym Mlaenafon.

Rheolir y rhwydwaith o hawliau tramwy cyhoeddus gan y Tîm Mynediad gyda chymorth gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a Chymdeithas y Cerddwyr i gadw llwybrau ar agor a chynnal ffensys, camfeydd a gatiau.

Mae yna nifer o lwybrau beicio oddi ar y ffordd ledled Torfaen ac maent yn hygyrch iawn, am nad ydynt yn serth, sydd yn eu gwneud yn ddelfrydol i bob gallu. Llwybr Afon Lwyd sy'n dilyn Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN 492 & 49) o Gasnewydd i Flaenafon yw'r brif llwybr drwy'r cwm a bydd cyfle i chi deithio drwy gefn gwlad deniadol sydd yn cyflwyno nifer o fannau o ddiddordeb hanesyddol.           

Mae'r Cyngor wedi cynhyrchu cyfres o daflenni teithiau cerdded cylchol, sy'n amrywiol a diddorol. Gellir eu lawr lwytho o dudalen Teithiau Cerdded Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm yr Economi ac Amgylchedd

Ffôn: 01633 648041

Nôl i’r Brig