Fforwm Mynediad Lleol

Beth yw Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl)?

Roedd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CROW) 2000 yn mynnu y byddai Fforymau Mynediad Lleol yn cael eu sefydlu ym mhob Awdurdod Lleol a Pharc Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Cyrff yw'r rhain a sefydlir i gynghori ar wella mynediad y cyhoedd at y tir yn yr ardal honno at ddibenion hamdden awyr agored a mwynhau'r ardal, ac i gynghori ar faterion eraill a ragnodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.         

Sut cawsant eu sefydlu?

Roedd y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy'n gosod dyletswydd statudol ar "awdurdodau penodi" i sefydlu FfMLl yn eu hardal. Sefydlodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen y Fforwm cyntaf ym mis Tachwedd 2002, gan benodi aelodau ag amryw ddiddordebau a phrofiadau o gerddwyr lleol i reolwyr ystâd, marchogion i ffermwyr, beicwyr gwlad i gominwyr. Bob tair blynedd, rhaid i'r Awdurdod ailhysbysebu am Fforwm Mynediad Lleol newydd, gan alluogi pobl newydd â diddordeb i ymgeisio felly a chynyddu nifer yr aelodau hynny sydd wedi gofyn am aros ar y fforwm.  

Pwy mae'r Fforwm Mynediad Lleol yn ei "gynghori"?

Ymgynghorir â'r fforymau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Adran Cefn Gwlad Torfaen a chyrff eraill fel y gellir eu rhagnodi mewn rheoliadau yn y dyfodol. Mae gan y cyrff hyn ddyletswydd i ystyried cyngor perthnasol a roir gan y Fforwm Mynediad Lleol ac yn Nhorfaen bu'r cyngor yn werthfawr ac yn ddefnyddiol iawn mewn llawer o achosion. (Trowch at yr Adroddiadau Blynyddol am restr o faterion a drosglwyddwyd i'r Fforwm Mynediad Lleol am sylwadau/cyngor).

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Mynediad

Ffôn: 01633 648278

Nôl i’r Brig