Gwarchodfeydd Natur Lleol

Garn Lakes Local Nature Reserve

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi dynodi saith safle yn y fwrdeistref yn Warchodfeydd Natur Leol. Mae'r gwarchodfeydd hyn ar gyfer pobl a bywyd gwyllt ac yn ffynonellau pwysig ar gyfer addysg amgylcheddol. Maent yn lleoedd gyda bywyd gwyllt sydd o ddiddordeb arbennig yn lleol, sy'n rhoi cyfleoedd i bobl eu hastudio a dysgu amdanynt neu i fwynhau byd natur a bod mewn cysylltiad ag ef. Eu nod yw gwarchod natur, ei mwynhau'n dawel a'i gwerthfawrogi'n gyhoeddus. 

Chwarel Cwmynyscoy

Yn agos i Bont-y-pŵl, o fewn hen chwarel, mae’r warchodfa hon yn gartref i nifer o rywogaethau pwysig, gan gynnwys yr ystlum a thylluanod gwyn.

Pyllau Churchwood a Springvale

Wedi'i leoli wrth ymyl y Fferm Gymunedol Greenmeadow yng Nghwmbrân, mae’r warchodfa hon yn cynnwys coetir hynafol a chyfres o byllau a gwlypdiroedd sy'n bwysig ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt.

Man Agored Henllys

Mae'r warchodfa hon yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd, o laswelltir a nentydd i goetir llydanddail mawreddog. Mae'n gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt, megis y glöyn byw brown gwyn.

Llynnoedd Garn

Mae’r tri llyn, sy'n ffurfio'r warchodfa hon, yn gartref i adar dŵr sy’n nythu, rhydwyr ac amrywiaeth o weision y neidr megis y sgimiwr cynffon ddu. Crëwyd ardal gwlypter newydd gyda chuddfan adar yn ddiweddar.

Tirpentwys

Tirpentwys used to be an old tipping site, but has recently been reclaimed and is now made up of a number of different habitats including ponds, woodland and streams.

Coridor Cwmafon

Mae'r warchodfa hon yn cwmpasu dros 45 hectar. Ei brif nodwedd yw llwybr beicio, sy’n dilyn llwybr hen reilffordd drwy laswelltir a choetir aeddfed o dderw digoes, ffawydd a chyll, ar uchder o 300m. Chwiliwch am adar y coed fel y gwybedog brith, telor y coed a'r tingoch yma.

Llwyncelyn

Dyma’r Warchodfa Natur Leol ddiweddaraf i gael ei ddynodi ym meysydd Llwyncelyn Torfaen, lleolir wrth ymyl rhiw Mynwent Llwyncelyn sydd uwchben tai Llwyncelyn a Choed Efa mae’n darparu golygfeydd panoramig, annisgwyl i bob cyfeiriad. Mae hwn yn safle sy'n cael ei defnyddio'n helaeth gan y gymuned leol a'r enghraifft fwyaf o ddolydd llawn blodau yn Nhorfaen.

Mae Taflen Gwarchodfeydd Natur Leol sy’n darparu gwybodaeth ar 6 o'r Gwarchodfeydd Natur Leol (ac eithrio Llwyncelyn) ar gael i'w lawr lwytho.

Mae fforestwyr wedi gweithio'n agos gydag aelodau o'r gymuned leol a gwirfoddolwyr i ymgymryd â gweithgareddau rheoli ar bob Gwarchodfa Natur Leol.

Mae grŵp Cyfeillion wedi ei sefydlu yng Ngwarchodfa Natur Leol Mannau Agored Henllys.

Am fwy o wybodaeth ewch at Flog Grwp Gwarchodfa Natur Leol Henllys

Gwarchodfeydd Natur Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn Nhorfaen

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn rheoli tair gwarchodfa natur yn Nhorfaen

Coed Meyric Moel

Mae'r warchodfa trefol bach hwn yn cynnwys dôl ac ardal fechan o goetir derw. Mae'n safle da ar gyfer adar, gloÿnnod byw a phryfed eraill. Am ragor o wybodaeth ewch at www.gwentwildlife.org/nature-reserves/coed-meyric-moel

Branches Fork Meadows

Maw Branches Fork Meadows yn gorwedd o dan y blanhigfa gonwydd yng Nghoed Gelun ac ar hyd llwybr beicio Torfaen. Mae'r warchodfa fechan yn cefnogi amrywiaeth o gynefinoedd gan gynnwys pwll, glaswelltir grugog llaith, prysgwydd helyg a choetir derw ifanc. Am ragor o wybodaeth ewch i www.gwentwildlife.org/nature-reserves/branches-fork-meadows

SoDdGA Cors Henllys

Llaid dyffryn bach wedi ei amgylchynu gan goetir gyda fflora mawr a diddorol. Am wybodaeth bellach ewch i www.gwentwildlife.org/nature-reserves/henllys-bog-sssi

Diwygiwyd Diwethaf: 19/05/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Yr Adran Cefn Gwlad

Ffôn: 01633 648034

Nôl i’r Brig