Tir Comin

Beth yw tir comin?

Mae’r syniad o dir comin yn mynd yn ôl canrifoedd, pan oedd unigolion yn derbyn yr hawl gan arglwydd y faenor i gasglu coed tân, pysgod, anifeiliaid sy’n pori, mawn, rhedyn a hawliau eraill yn amodol ar anghenion lleol. Yn 1965 fe wnaeth Deddf Seneddol ffurfioli’r traddodiadau hyn.

Pwy sy'n berchen ar dir comin?

Mae gan bob tir comin berchennog. Mae’r mwyafrif yn eiddo i unigolion neu gyfundrefn breifat. Lle nad oes perchennog hysbys, mae gan yr awdurdod lleol perthnasol hawl i amddiffyn y comin rhag dirywiad a chamddefnyddio..

Pwy yw'r cominwyr fel arfer?

Fel arfer ffermwyr yw cominwyr sy’n meddu ar yr hawl  i bori da byw 
(hawliau tir comin cofrestredig). Fodd bynnag, mae’r hawl hwn  yn gysylltiedig gydag eiddo ac nid unigolyn felly dyna pam mae nifer o diroedd comin yn gysylltiedig gyda ffermydd sy’n agos at y tir comin. Mae’r nifer a’r math o dda byw y mae ffermwyr yn gallu  pori wedi ei amlinellu mewn cofrestr gyfreithiol. Mae'r dyraniad hwn yn nodi uchafswm y gwartheg, defaid, merlod neu dda byw eraill y gellir eu pori gan bob cominwr. Dim ond cominwyr rhestredig sydd gyda hawliau pori, nid oes hawl gan unrhyw un arall i roi da byw ar y comin

Ydy tir comin yn agored i'r cyhoedd?

Yn ôl hanes, mae’r than fwyaf o diroedd comin yng Nghymru wedi bod yn agored i’r cyhoedd gyda chaniatâd y perchennog. Sefydlodd y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 tir comin cofrestredig, mynydd-dir, rhostir a gweundir fel 'tir mynediad’. Mae’r hawl mynediad a’i cyflwynwyd gan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ar gyfer hamdden awyr agored ar droed. Mae’r ardaloedd yma wedi eu nodi’n glir ar Fapiau Ymchwilio'r Arolwg Ordnans. Mae marchogaeth a beicio yn parhau i fod yn gyfyngedig i lwybrau ceffylau.

Cofrestrfa tir comin

Mae cofrestr tiroedd comin yn cael ei chadw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Cadw'r tir comin mewn cyflwr da

Mae llawer o’r tiroedd comin yn Nhorfaen yn gynefin rhostir lled-naturiol gwerthfawr sydd wedi cael ei rheoli gan bobl am filoedd o flynyddoedd. Mae rheoli blynyddoedd a phori, gan gynnwys rheoli rhedyn, torri a llosgi a reolir, i gyd yn elfennau pwysig wrth gadw rhostiroedd iach.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan  Cyfoeth Naturiol Cymru.

Arolwg Ordnans

Gallwch
brynu copi caled o fapiau Archwilio Arolwg Ordnans yn eich siop lyfrau leol neu
ar y we trwy wefan yr Arolwg Ordnans.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Mynediad

Ffôn: 01633 648034

Nôl i’r Brig