Aelodaeth Fforwm Mynediad Lleol

Pwy sy'n rhan o'r Fforwm Mynediad Lleol?

Mae'r Fforwm Mynediad Lleol yn cynnwys gwirfoddolwyr sydd â phrofiad neu ddiddordeb mewn materion cefn gwlad a mynediad. Mae cymysgedd gytbwys rhwng defnyddwyr a thirfeddianwyr/rheolwyr tir, gydag ystod eang o brofiad a diddordebau. (Eto, gweler y dadansoddiad o aelodau a restrir yn yr Adroddiadau Blynyddol). Penodir pob aelod yn ei rinwedd ei hun, nid i gynrychioli unrhyw grŵp neu gorff penodol, felly ni all benodi dirprwy i ddod yn ei le os na fydd yn gallu dod i gyfarfod. 

Pa mor aml maen nhw'n cyfarfod?

Ar hyn o bryd, mae Fforwm Mynediad Lleol Torfaen yn cwrdd bob tri mis yn y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl. Cyfarfodydd cyhoeddus yw'r rhain a chaiff unrhyw un fynd iddynt, ond dim ond aelodau'r Fforwm sy'n gallu cyfranogi. Os bydd aelod o'r cyhoedd yn dymuno codi pwynt yng nghyfarfod y Fforwm, gall gysylltu â'r ysgrifennydd neu'r cadeirydd a gofyn am gynnwys ei fater mynediad ar yr agenda. 

Sut mae ymaelodi â'r Fforwm Mynediad Lleol?

Bob tair blynedd, gwahoddir aelodau o'r cyhoedd â diddordeb i ymgeisio i fod yn aelod o'r Fforwm Mynediad Lleol. Asesir y ceisiadau gan yr awdurdod lleol a phenodir yr aelodau llwyddiannus am gyfnod o dair blynedd. Mae'r awdurdod hefyd yn rhoi cymorth ysgrifenyddol i'r Fforwm Mynediad Lleol ond rhaid i'r fforwm osod ei agendâu ei hun, ac anogir aelodau unigol i awgrymu eitemau agenda a darparu papurau ategol lle bydd eu hangen. 

Mae'r aelodau presennol fel a ganlyn:

  • Mr Edwin Gulliford, Blaenavon, Gadeirydd
  • Ms. Veronica Brannovic Pontypŵl Dirprwy Gaderiydd
  • Mrs Gill Calder-Matthews, Pontypŵl
  • Mrs Charlotte Barter, Blaenavon
  • Mr J Hanbury, Pontypŵl
  • Mr Jeff Williams, Cwmbrân
  • Mr Jason Rees, Cwmbrân
  • Mr Harry McKenzie, Pontypŵl
  • Mr Rob Holcombe, Ponthir
  • Mr Jon Horler, Pontypŵl
  • Councillor Lewis Jones 
  • Mr Christopher Hatch, Pontypŵl
  • Mrs Linda Stinchcombe, Cwmbran 
  • Miss Aileen Vaughan, Ebbw Vale 
  • Miss Nadine Morgan, Abertillery
  • Mr Mark Lewis, Cwmtillery 
  • Mrs Liz Van, Cwmbrân
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Yr Adran Cefn Gwlad

Ffôn: 01633 648278

Nôl i’r Brig