Teithiau Cerdded Torfaen

Mae Torfaen yn ardal brydferth yng nghymoedd mwyaf dwyreiniol De Cymru, ac mae'n adnabyddus am fod yn ardal sy'n cynnig croeso cynnes ac amrywiaeth fawr o ran ei thirwedd, ei bioamrywiaeth, ei hanes a'i threftadaeth ddiwylliannol. 

P'un a ydych yn gerddwr pellteroedd mawr sy'n chwilio am her neu allan am dro ar y penwythnos gyda'r teulu, mae gan Dorfaen gyfres o deithiau cerdded cylchol sy'n addas i bobl o bob oedran a gallu.

Yn y Sir hyfryd o amrywiol hon, mae dros 369km (230 o filltiroedd) o lwybrau troed cyhoeddus gyda theithiau cerdded cylchol hir a byr gan gynnwys rhai yng nghefn gwlad; ar hyd y gamlas; ar draws copaon mynydd a hyd yn oed rhai lle gallwch ddilyn ôl traed y gwneuthurwyr haearn a'r mwyngloddwyr yn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon

Mae cyfres o daflenni teithiau cerdded cylchol ar gael i'w lawrlwytho neu beth am ymuno yn un o'r teithiau tywysedig a gynhelir drwy gydol y flwyddyn.

Pecyn Teithiau Cerdded Blaenafon

Dewch i ddarganfod corneli cudd Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon gan ddefnyddio'r pecyn hwn o daflenni teithiau cerdded. Mae'r teithiau cerdded yn mynd heibio safleoedd hanesyddol o'r Oes Efydd, drwy'r Chwyldro Diwydiannol ac i dirwedd a hanes a ysbrydolodd yr awdur enwog, Alexander Cordell.

Mae'r teithiau cerdded yn amrywio o droeon hawdd i heiciau egnïol, ac o ychydig dan 4 km (2 ½ filltir) i ychydig dros 18 km (12 milltir). Gallwch deilwra'ch teithiau cerdded ichi'ch hunain o fynd am dro cyflym o gwmpas Llynnoedd Garn tra byddwch yn aros am eich taith danddaearol yn Big Pit neu gyfuno nifer o'r teithiau cerdded er mwyn crwydro am ddiwrnod cyfan. Mae pob taith gerdded yn cychwyn ac yn gorffen mewn man cyfleus fel maes parcio, canol pentref, tafarn, safle picnic neu atyniad treftadaeth.

Dyma'r teithiau cerdded sy'n cael eu cynnwys yn y pecyn:

Llwybr Mynydd Haearn – Rhan Un

Mae hwn yn mynd â chi dros Fynydd Blorenge ac o'i gwmpas ar hen dramffyrdd a llwybrau hynafol, gan fynd heibio safle Gefail Garnddyrys a mwynhau golygfeydd syfrdanol draw dros Ddyffryn Wysg. Gellir cysylltu hwn ag ail ran Llwybr Mynydd Haearn am daith gerdded hirach. Lawrlwythwch gopi o daflen Llwybr Mynydd Haearn – Rhan Un yma.

Mynydd y Garn-Fawr

Taith gerdded gylchol yn rhannol ar draws mynydd agored, gan fynd heibio hen farcwyr plwyf, carneddau'r oes efydd a bedd neidiwr ceffylau! Lawrlwythwch gopi o daflen Mynydd y Garn-Fawr yma.

Y Daith Wib 

Taith gerdded gylchol drwy Lynnoedd Garn ac ar hyd hen lwybrau sy'n mynd â chi heibio Rheilffordd Blaenafon a Big Pit. Lawrlwythwch gopi o daflen Y Daith Wib yma. 

Llwybr Mynydd Haearn - Rhan Dau

Crwydrwch dirwedd fwy diwydiannol Safle Treftadaeth y Byd, gan fynd drwy hen bentref Pwll Du a heibio llawer o'r nodweddion hanesyddol sy'n rhoi arwyddocâd byd-eang i'r dirwedd hon, fel Gwaith Haearn Blaenafon. Gellir cysylltu'r daith gerdded hon â rhan un o Lwybr Mynydd Haearn am daith hirach. Lawrlwythwch gopi o daflen Llwybr Mynydd Haearn - Rhan Dau yma. 

Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon

Cynlluniwyd y daith gerdded hon i dywys ymwelwyr o amgylch rhan o Safle Treftadaeth y Byd i weld rhai o'r nodweddion treftadaeth sy'n cyfrannu at gydnabod ei dreftadaeth ddiwydiannol eithriadol. Ar y daith gerdded, ceir nifer o Adeiladau Rhestredig Gradd I, II a III. Mae'n cynnwys mynydd agored, coetiroedd a Thref Blaenafon. Lawrlwythwch gopi o daflen Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yma.

Carn y Gorfydd

Taith gerdded gylchol fer, fwy gwledig yn Safle Treftadaeth y Byd, sy'n disgyn i ffermydd ar hyd lonydd gwyrdd. Lawrlwythwch gopi o daflen Carn y Gorfydd yma. 

Glanfa Goytre i Dirwedd Blaenafon

Taith gerdded gylchol egnïol o 14 milltir, heibio'r odynau calch hanesyddol yng Nglanfa Goytre, y Ffynnon Sanctaidd a thafarn wledig The Goose and Cuckoo. Lawrlwythwch gopi o daflen Glanfa Goytre i Dirwedd Blaenafon yma.

Taith Gerdded Tref Blaenafon

Taith gylch, gymedrol o 2 filltir (3.5km) y gellir ei hymestyn i 4.5milltir (7.5Km) i’r mwy egnïol.

Mae’n cychwyn yn y Ganolfan Dreftadaeth sydd wedi ei lleoli yn adeilad hen ysgol Sant Pedr ac mae’n eich tywys ar daith o amgylch y dref a’i hanes.

Mae’r llwybr yn mynd heibio Gwaith Haearn, y siopau lleol, yn ogystal â’r Ganolfan Dreftadaeth felly mae ‘na ddigon i’w weld a gwneud ar hyd y ffordd.

Lawr lwythwch gopi o  Taflen Taith Gerdded Tref Blaenafon yma.

Taith Gerdded Gylchol Cwm Ffrwd

Dwy awr a hanner o daith gerdded gylchol o gwmpas ardal Pont-y-pŵl, yn crwydro cwm tawel heb lawer o ymwelwyr ar ochr orllewinol y Cwm Dwyreiniol. 

Mae taith gerdded Cwm Ffrwd yn mynd â chi drwy ardaloedd coediog, ar hyd yr hen reilffordd, ac mae'n gyfle ichi weld gweddillion amrywiol y gwaith haearn a'r nodweddion mwyngloddio. 

Dechreuwch ym maes parcio Clwb Rygbi Tal-y-waun ychydig oddi ar Albert Road, Tal-y-waun.

Lawrlwythwch gopi o Daflen Taith Gerdded Gylchol Cwm Ffrwd yma.

Taith Gerdded Gylchol Cwm Lasgarn

Mae hon yn dair awr o daith gerdded gylchol, sy'n mynd â chi drwy'r coetir hynafol yng Nghoedwig Lasgarn a'r ardal o'i chwmpas, gan roi'r cyfle ichi grwydro'r coetir digyffwrdd, a chefn gwlad a hanes amrywiol Cwm Lasgarn. 

Awgrymwn ichi ddechrau yn y maes parcio bach yn Waterworks Lane, ychydig oddi ar yr A4043 Ffordd Pont-y-pŵl i Flaenafon ym Mhentref Victoria. 

Lawrlwythwch gopi o Daflen Taith Gerdded Gylchol Cwm Lasgarn yma.

Taith Gerdded Gylchol Cwm Lickey

Awr a hanner o daith gerdded yw hon, sy'n amlygu diwydiant ardal Race a'r gymuned a dyfodd o'i gwmpas. Yn ôl pob tebyg, cafodd “Race” ei enw o fwyngloddio mwyn haearn, un o'r diwydiannau lawer a ddatblygodd yn yr ardal hon. Gorweddai'r mwyn yn agos i'r wyneb felly byddai'n cael ei weithio drwy sgwrio'r uwchbridd i ffwrdd â dŵr a fyddai'n “rasio” drwy sianeli i gario'r pridd i ffwrdd i ddinoethi'r mwynau oddi tano. Gall y gair Cymraeg 'Ras' gyfeirio at y broses hon.

Mae'r taith gerdded yn cychwyn yn y “Race”, ar dop Blaendare Road, tuag 80 metr heibio capel Race. Yma mae pedair ffordd yn cydgyfeirio i ffurfio triongl, sef ardal droi i fysiau, felly parciwch yn synhwyrol.

Lawrlwythwch gopi o Daflen Taith Gerdded Gylchol Cwm Lickey yma.

Taith Gerdded Gylchol Cwm Sychan

Dwy awr o daith gerdded gylchol o gwmpas ardal Pont-y-pŵl, yn crwydro cwm tawel, prin ei ymwelwyr, ar ochr orllewinol Cwm y Dwyrain.  

Ar daith gerdded Cwmsychan, byddwch yn mynd drwy safle ‘The British’ a Chwmsychan, ardal a fu unwaith yn gartref i waith haearn pwysig. Adeiladwyd y gwaith haearn ym 1826 gan British Iron Company, ac fe'i gwerthwyd yn ddiweddarach ym 1852 i berchenogion gwaith haearn Glynebwy. Mae nifer o Adeiladau Rhestredig yn bodoli hyd heddiw, gan gynnwys Bwa Mawr a Thŷ Injans Cernywaidd Rhestredig Gradd II. Mae gweddillion eraill amrywiol y gwaith haearn a nodweddion mwyngloddio hefyd o ddiddordeb archeolegol. 

Dechreuwch ym maes parcio Clwb Rygbi Tal-y-waun, ychydig oddi ar New Road, Tal-y-waun.

Lawrlwythwch gopi o Daflen Taith Gerdded Gylchol Cwm Sychan yma.

Llwybr Treftadaeth Cwmafon

Tair awr o daith gerdded, sy'n cychwyn ym maes parcio a safle picnic golygfan Capel Newydd, ar Llanover Road tua 1.5 milltir y tu allan i Flaenafon. 

Lawrlwythwch gopi o Daflen Taith Gerdded Llwybr Treftadaeth Cwmafon yma.

Taith Gerdded Gylchol Henllys

Dwy awr a hanner o daith gerdded gylchol sy'n cysylltu'n uniongyrchol ag ardaloedd trefol Henllys, Coed Efa a Fairwater, Cwmbrân. 

Mae'r daith gerdded yn mynd ymlaen i Fynydd Henllys ac yn dychwelyd drwy dir fferm i'r de. Mae'r llwybr tua 7km (4.5 milltir) o hyd.

Lawrlwythwch gopi o Daflen Taith Gerdded Gylchol Henllys yma.

Yn Ôl Traed y Pererinion

Chwech i saith awr o daith gerdded gylchol yn dilyn rhan o lwybr hynafol a gerddid gan bererinion canoloesol.

Lawrlwythwch gopi o Daflen Taith Gerdded Yn Ôl Traed y Pererinion yma.

Taith Gerdded Gylchol Parc Pont-y-pŵl

Dyma 4 milltir a dwy fil o flynyddoedd o daith gerdded. Bydd yn mynd â chi ymhellach yn ôl drwy amser yr uchaf a ddringwch, wedyn byddwch yn dychwelyd drwy'r canrifoedd wrth i chi ddisgyn.  

(Os ydych yn cychwyn o'r safleoedd bws yn Hanbury Road, ewch drwy Gatiau'r Parc a'r Gerddi Eidalaidd, dros bont yr afon, cyn troi i'r dde wedyn ymlaen a heibio'r Ganolfan Byw'n Weithgar o'ch blaen). 

Lawrlwythwch gopi o Daflen Taith Gerdded Gylchol Parc Pont-y-pŵl yma.

Taith Gerdded Gylchol De Henllys

Dwy awr a hanner o daith gerdded drwy dir fferm Mynydd Maen a Henllys. 

Mae Taith Gerdded Gylchol De Henllys yn weddol hawdd, gan groesi tir fferm sy'n llethrau ysgafn yn bennaf (er bod tua 16 o gamfeydd i'w dringo). 

Mae'r daith tua 7km o hyd a bydd yn cymryd tua 2.5 i 3 awr i'w chwblhau.  

Lawrlwythwch gopi o Daflen Taith Gerdded Gylchol De Henllys yma.

Llwybr Hamdden Torfaen

Dewch i ddarganfod cefn gwlad Torfaen drwy ddefnyddio Llwybr Hamdden Torfaen (y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, Llwybr 46). Mae'r llwybr hwn yn cynnig profiad beicio a cherdded sy'n gwbl rydd o draffig. 

Mae pen deheuol Llwybr 46 yn cysylltu â Llwybr 47 NCN, sy'n agos i orsafoedd bysiau a threnau Casnewydd. Mae'n mynd ar hyd Bwrdeistref Sirol Torfaen, o Gwmbrân yn y de i Flaenafon yn y gogledd, a thrwy Bont-y-pŵl. Dros ryw 18 milltir, cynlluniwyd y llwybr er mwynhad beicwyr a cherddwyr ac, mewn rhannau, marchogion, ac felly ei enw "Llwybr Hamdden Torfaen". 

Yn y de mae'n dilyn llwybr tynnu Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, ac yn y gogledd mae'n mynd ar hyd yr hen reilffordd fwynau. 

Gall marchogion ddefnyddio'r darn o'r llwybr o Waunfelin, Pont-y-pŵl i Lynnoedd Garn, Blaenafon.

Mae hwn yn llwybr hawdd i bob defnyddiwr, gan ddringo'n raddol o'r de i'r gogledd. 

Lawrlwythwch gopi o Fap Beicio Llwybr Afon Lwyd yma.

Taith Gerdded Ffigur 8 - Llwybr Torfaen

Dolen ffigur wyth yw Llwybr Torfaen sy'n ymgorffori'r Fwrdeistref gyfan, o Gwmbrân yn y de i Flaenafon yn y gogledd, gan groesi draw ym Mharc Pont-y-pŵl sydd yng nghanol y Fwrdeistref. Rhannwyd 35 milltir y llwybr hwn yn naw darn llinellol, sy'n amrywio o ran hyd o 2 filltir i 9 milltir. Bydd rhywbeth at ddant cerddwyr o bob oedran a gallu, o rodio'n hamddenol i sialens y 35 milltir i gyd! 

Mae'r daith gerdded brydferth hon yn cynnwys coetiroedd hynafol; coedwigaeth; lonydd gwledig a chopaon mynydd agored.

Y prif fan cychwyn i'r llwybr hwn yw'r maes parcio yng Nghanolfan Byw'n Weithgar Pont-y-pŵl. Mae yma ddigonedd o leoedd parcio, caffi a thoiledau. 

Gallwch lawrlwytho copi o Daflen Ffigur 8 - Llwybr Torfaen yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Mynediad

Ffôn: 01633 648035

Nôl i’r Brig