Llwybr Afon Lwyd

Mae Llwybr Afon Lwyd yn llwybr prydferth 16 milltir o hyd heb draffig, sy'n rhedeg drwy Gwmbrân yn y de, trwy Bont-y-pŵl ac i fyny i Safle Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon yn y gogledd (NCN49 a 492). Mae’n cynnwys y golygfeydd anhygoel a’r mannau gwyrdd prydferth i gyd sydd gan ardal Torfaen i gynnig. Gan ddilyn camlas ac yna hen reilffordd mae’n cynnwys llwybr hawdd i bob defnyddiwr. Mae llethr fechan yn codi o’r de i’r gogledd sy’n gwneud y llwybr di-draffig yma yn berffaith ar gyfer teuluoedd.

Mae’r llwybr yn pasio sawl cwm ac mae ganddo gysylltiadau ardderchog i fysiau a threnau felly mae’n cynnig modd iach, dymunol a rhad i deithio’n ôl a 'mlaen i’r gwaith neu’r ysgol. Efallai byddwch ond yn dewis un rhan fach i archwilio, neu un man hoffwch ymweld â gan ddefnyddio bws a threnau ym Mhont-y-pŵl a Chwmbrân.

Rhannwch y Llwybr!

Mae llwybrau aml-ddefnydd a rennir yn ffordd wych i fynd o gwmpas gan ddefnyddio beic, ond maent hefyd yn cael eu defnyddio can lawer o bobl eraill. Mae’n bwysig dilyn rhai rheolau syml fel bod pawb yn gallu eu mwynhau gymaint ag sy’n bosib.

Edrychwch ar y Cod Ymddygiad Beicio neu ewch i wefan Sustrans.

Teithio i Lwybr Afon Lwyd ac o'r Llwybr

Ar feic

Mae gorsafoedd Pont-y-pŵl a Chwmbrân yn cynnig arwyddion rhagorol i’r llwybr.

  • I’r de mae'r llwybr yn ymuno â llwybr NCN 49 a 47, yn ogystal â'r gorsafoedd rheilffordd a bws yng Nghasnewydd.
  • I’r gorllewin, mae'r llwybr yn ymuno â llwybr NCN 466 sy'n cysylltu â Chrymlyn.

  • I'r gogledd drwy lwybr gamlas Mynwy ac Aberhonddu NCN 49. Mae hwn yn
    cysylltu â NCN 46 ar gyfer cysylltiadau i'r cymoedd drwy Frynmawr neu'r Fenni
    ar gyfer gorsafoedd bws a rheilffordd.

I gael amseroedd trenau a gwybodaeth am drafnidiaeth cyhoeddus ewch i  www.traveline-cymru.info

I gael y gorau o'r rhwydwaith a chael mapiau a llyfrau canllaw ewch i
wefan Sustrans.

Atyniadau ar hyd y Llwybr

Mae yna amrywiaeth o atyniadau yn Nhorfaen gellir mynd iddynt yn hawdd o Lwybr Afon Lwyd:

  • Gwarchodfa Natur Leol Llynnoedd Garn
  • Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon
  • Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Gwaith Haearn Blaenafon
  • Safle Treftadaeth y Byd
  • Traphont Garndiffaith
  • Amgueddfa Pont-y-pŵl a Pharc Pont-y-pŵl
  • Canol Trefi Cwmbrân Blaenafon, Pont-y-pŵl, a
  • Chamlas Mynwy ac Aberhonddu

Twristiaeth a gwybodaeth

Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, Church Road, Blaenafon, NP4 9AE
Ffôn: 01495 742333
E-bost: blaenavon.tic@torfaen.gov.uk

Mae Llwybr Afon Lwyd yn rhan o’r Rhwydwaith Feicio Cenedlaethol,
rhwydwaith o lefydd atyniadol i feicio drwy gydol y DU. Am fwy o wybodaeth
cysylltwch â Sustrans ar 0845 113 0065 neu ewch i wefan Sustrans.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Mynediad

Ffôn: 01633 648035

Nôl i’r Brig