Derbyn i Ysgol - Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
Mae corff llywodraethol Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yn uniongyrchol gyfrifol am reoli proses dderbyn yr ysgol.
Rhaid i bob Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir dderbyn hyd at ei nifer derbyn. Os bydd nifer y ceisiadau'n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, caiff lleoedd eu dyrannu'n unol â'r meini prawf gormod o geisiadau y mae pob ysgol wedi cytuno arnynt.
Fel arfer, caiff y dewis cyntaf ei gynnig ar sail crefydd, lleoliad y cartref, brodyr a chwiorydd ac ati.
Mae manylion am enwau a chyfeiriadau ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, eu polisïau derbyn a manylion am bolisi cludiant yr Awdurdod yn ymwneud ag ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ar gael yn y Llyfryn Gwybodaeth am Ysgolion 2025/2026.
I gloi, caiff pob derbyniad i unrhyw ysgol ei drin yn unol â pholisi derbyn yr ALl neu bolisi derbyn yr ysgol, ac ni chaiff disgyblion eu 'dethol' ac ni chynhelir cyfweliadau ar unrhyw adeg i benderfynu ar dderbyniadau.
Diwygiwyd Diwethaf: 29/07/2024
Nôl i’r Brig