Derbyn i Ysgolion - Ysgolion Uwchradd
Trosolwg
Mae pedair ysgol cyfrwng Saesneg, un cyfrwng Cymraeg ac un ysgol ffydd yn cael eu rheoli gan y cyngor yn Nhorfaen.
Mae gan gyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn Nhorfaen gyfrifoldeb am eu trefniadau derbyn eu hunain a rhaid gofyn am ffurflenni cais yn uniongyrchol o'r ysgol a'u dychwelyd i'r ysgol o'ch dewis.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ysgolion cynradd yr awdurdod lleol yn ein Llyfryn Gwybodaeth i Rieni / Gofalwyr 2025/2026.
Cymhwysedd
Mae plant fel arfer yn trosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd ar ddechrau’r flwyddyn ysgol y maen nhw’n dathlu eu pen-blwydd yn ddeuddeg oed (hy 1 Medi i 31 Awst yn gynhwysol).
Gwneud Cais
Trosglwyddo yn ystod y flwyddyn
Ar gyfer derbyn i ysgol uwchradd y tu allan i'r cylch derbyn blynyddol, bydd angen i chi wneud cais trosglwyddo yn ystod y flwyddyn.
Derbyn ym mis Medi 2026
Mae'r dyddiad cau ar gyfer lleoliadau ym mis Medi 2026 bellach wedi mynd heibio, ond mae dal cyfle i chi gyflwyno cais hwyr.
- Dyddiad penderfynu ar geisiadau sydd ar amser – Dydd Llun 2 Mawrth 2026
Ceisiadau hwyr - 2026
I wneud cais hwyr am le mewn Ysgol Uwchradd ym mis Medi 2026 lawr lwythwch a llenwch y Ffurflen derbyn i Ysgol Uwchradd a’i dychwelyd i school.admissions@torfaen.gov.uk
Cysylltu
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â'r Tîm Derbyn i Ysgolion ar 01495 766915 neu e-bostiwch school.admissions@torfaen.gov.uk.
Os ydych am wneud cais am ysgol y tu allan i Dorfaen, bydd angen i chi gysylltu â'ch Awdurdod Cartref i ofyn am gyngor ar sut i wneud cais.
Gellir dod o hyd i fanylion llawn am drefniadau Derbyn yr Awdurdod a materion cysylltiedig, fel darparu cludiant ysgol yn Llyfryn Gwybodaeth i Rieni / Gofalwyr 2025/2026
Diwygiwyd Diwethaf: 31/10/2025
Nôl i’r Brig