Derbyn i Ysgolion - Ysgolion Cynradd

Mae plant fel arfer yn dechrau yn yr ysgol gynradd ar ddechrau'r flwyddyn ysgol y maen nhw'n dathlu eu pen-blwydd yn bump oed (h.y. 1 Medi i 31 Awst yn gynhwysol).

Derbyn i Ysgolion ym mis Medi 2024

Mae’r dyddiad cau ar gyfer derbyn i ysgolion cynradd ym mis Medi 2024 bellach wedi mynd heibio, ond fe allwch dal fynd ati i gyflwyno cais hwyr.

Gallwch lawr lwytho’r Ffurflen Derbyn i Ysgolion Cynradd a’i dychwelyd atom mewn e-bost i school.admissions@torfaen.gov.uk neu ei phostio at y Tîm Derbyn i Ysgolion, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB.

Bydd unrhyw ffurflenni a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau, sef 12 canol dydd ar y 9fed o Ionawr 2024 yn cael eu trin fel ceisiadau hwyr a byddant yn cael eu hystyried yn fisol yn unol â’r Polisi Derbyn.

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â’r Tîm Derbyn i Ysgolion ar 01495 766915 neu e-bostiwch school.admissions@torfaen.gov.uk.

Cynnig lle

Y dyddiad ar gyfer cynnig lle yw Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024 (neu'r diwrnod gwaith nesaf). Cewch wybod beth oedd canlyniad eich cais trwy'r dull hysbysu a ddewiswyd gennych.

Os nad ydych yn byw yn Nhorfaen, bydd gofyn i chi gysylltu â'ch Awdurdod Lleol i ofyn am gyngor am sut i ymgeisio.

Os ydych yn dymuno i'ch plentyn fynychu Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir, bydd gofyn i chi gysylltu’n uniongyrchol â'r ysgol ynghylch y trefniadau derbyn angenrheidiol.

Mae manylion trefniadau Derbyn yr Awdurdod a materion cysylltiedig fel trafnidiaeth ysgol ar gael yn Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni/Gofalwyr.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/02/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Derbyn i Ysgolion

Ffôn: 01495 766915

Nôl i’r Brig