Derbyniadau Ysgol - Gweithdrefn Apelio

Yn y mwyafrif helaeth o achosion, caiff plant gynnig lle yn yr ysgol o ddewis cyntaf eu rhieni/gofalwyr. 

Fodd bynnag, os nad yw eich plentyn yn gallu cael ei (d)derbyn i'r ysgol honno, byddwch yn cael rheswm manwl dros y penderfyniad hwnnw ac yn cael gwybod am eich hawl statudol i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

Os caiff eich cais ei wrthod, bydd angen i chi benderfynu a ydych yn fodlon derbyn lle sy'n cael ei gynnig mewn ysgol arall, neu a hoffech barhau â'ch cais cyntaf.

Os byddwch yn dewis yr olaf, gallwch apelio at Banel Apeliadau Annibynnol a chaiff trefniadau i wrando ar eich apêl eu gwneud ym mis Ebrill/Mai gan Is-adran Gwasanaethau Democrataidd yr Awdurdod. 

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y broses Apelio trwy gysylltu â'r Gwasanaethau Democrataidd, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB neu drwy ffonio 01495 766294. Mae hyn yn berthnasol i dderbyniadau chweched dosbarth hefyd.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Democrataidd 

Ffôn: 01495 766294

Nôl i’r Brig