Trosglwyddo eich plentyn rhwng ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd
Os ydych chi'n ystyried trosglwyddo eich plentyn i ysgol arall yn ystod y flwyddyn academaidd, fe'ch cynghorir i drafod eich opsiynau â phennaeth presennol eich plentyn yn y lle cyntaf er mwyn ceisio datrys unrhyw broblemau a all fod wedi codi.
Efallai y bydd rheswm addysgol cryf pam na ddylech drosglwyddo eich plentyn, yn enwedig ym mlynyddoedd 10 ac 11 pan fydd eisoes wedi dewis ei (h)opsiynau TGAU. Hefyd, bydd angen i chi ystyried yn ofalus sut y bydd eich plentyn yn teithio i'r ysgol, oherwydd efallai na fydd cludiant ysgol ar gael.
Os byddwch yn penderfynu bwrw ymlaen, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais i drosglwyddo a hynny drwy gwblhau’r Ffurflen Trosglwyddo yn Ystod y Flwyddyn fydd yn cael ei chyflwyno’n uniongyrchol i Dîm Derbyn Torfaen, neu, fel arall, cysylltwch â Kelly Tucker i gael copi caled, ar 01495 766915. Mae Canllaw i Rieni ar Dderbyniadau Ar-lein ar gael i’ch tywys drwy’r broses ar-lein.
Ymdrechwn i brosesu eich cais cyn pen 15 diwrnod gwaith yn ystod tymor yr ysgol yn unig. Fe'ch cynghorir yn gryf na ddylech dynnu eich plentyn o'i (h)ysgol bresennol nes y gellir dod o hyd i leoliad arall addas, lle bo hynny'n bosibl. Gallai'r broses hon gymryd mwy o amser os yw eich plentyn yn cael ei drosglwyddo yn dilyn y Protocol Anodd Eu Lleoli.
Fodd bynnag, os ydych am i'ch plentyn fynychu Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir, bydd angen i chi gysylltu'n uniongyrchol â'r ysgol i gael y trefniadau derbyn angenrheidiol.
Mae manylion llawn am drefniadau derbyn yr Awdurdod a materion cysylltiedig, fel y ddarpariaeth cludiant ysgol, ar gael yn y Llyfryn Gwybodaeth am Ysgolion 2025/2026.
Diwygiwyd Diwethaf: 30/07/2024
Nôl i’r Brig