Ymgynghoriad ar y Polisi Derbyn

Mae dogfen yr ymgynghoriad ar gyfer trefniadau Polisi Derbyn Torfaen 2027/2028 yn barod, felly ewch ati i roi eich sylwadau.

Mae’r Polisi wedi ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newidiadau a gyflwynwyd gan y cynllun derbyniadau cyd-drefnedig rhwng y cyngor a’r ysgolion canlynol a gynorthwyir yn wirfoddol (Ysgolion Ffydd):

  • Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant, Cwmbrân
  • Ysgol Gynradd Gatholig Mair a’r Angylion, Cwmbrân
  • Ysgol Gynradd Gatholig Padre Pio, Pont-y-pŵl
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Henllys
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Ponthir  

Eleni, mae’r Awdurdod Lleol yn cynnig newidiadau i niferoedd derbyn yr ysgolion canlynol;

  • Ysgol Gynradd Maendy o 60 i 55
  • Ysgol Gynradd Pen-y-garn o 63 i 60

Mae’r Awdurdod Lleol hefyd yn cynnig newidiadau i niferoedd capasiti rhai ysgolion.  Nid yw hyn er mwyn lleihau capasiti’r ysgolion, ond i ddod â nhw i gysondeb â’u niferoedd derbyn. 

Bydd rhannau o’r polisi hefyd yn cael eu hailysgrifennu i ddiweddaru terminoleg/rhoi mwy o eglurder o gylch rhai pynciau heb newid y bwriad.

I wneud sylwadau ar yr ymgynghoriad yma, danfonwch sylwadau at Kelly Slade, Rheolwr Derbyniadau, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB neu drwy e-bost at kelly.slade@torfaen.gov.uk.

Sicrhewch fod pob sylw gyda ni erbyn 5pm Dydd Mawrth 20 Ionawr 2026 fan hwyraf os gwelwch yn dda.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/12/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

School Admissions

Tel: 01495 766915

Email: school.admissions@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig