Rôl Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Beth yw rôl Gwasanaeth Rheoli Argyfyngau Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen?

  • Mae Gwasanaeth Rheoli Argyfyngau Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gallu cynnig cyngor cyffredinol ar Barhad Busnes a Rheoli Risg. 
  • Gallwn hefyd roi gwybodaeth am ffynonellau ar gyfer cyngor a/neu gymorth mwy penodol.
  • Ni allwn baratoi eich cynlluniau ar eich cyfer gan mai chi sy'n adnabod eich busnes a'r prosesau critigol.
  • Rydym yn cynnig cyngor yn rhad ac am ddim fel arfer.

Y Broses Parhad Busnes

  • Deall eich busnes a'r amcanion busnes allweddol
  • Nodi gweithgareddau allweddol a'r staff sy'n gweithio yn y meysydd hynny
  • Nodi pwyntiau unigol o fethiant
  • Nodi'r bygythiadau posibl
  • Asesu'r risg yn fewnol ac yn allanol
  • Cyfrifo'r effaith
  • Adolygu'r canlyniadau
  • Cynllunio ar gyfer lleihau'r tebygolrwydd neu leihau'r effaith
  • Hyfforddi eich staff
  • Ymarfer y cynllun
  • Archwilio'r canlyniadau a'u hadolygu'n rheolaidd
  • Pa rai o'ch gwasanaethau critigol fyddai dan fygythiad pe byddai eich cyfleuster yn cael ei wacáu am wythnos/mis gyda phob mynediad wedi'i wrthod?
  • Sawl aelod o staff fyddai eu hangen i gyflawni tasgau critigol a sut byddech chi'n darparu ar eu cyfer?
  • Sut byddech chi'n parhau i weithredu pe byddai nifer fawr o staff yn absennol oherwydd salwch, e.e. pandemig ffliw?
  • A oes gennych chi adeilad arall i weithio ynddo'n effeithiol? A yw'n ddigonol? A all staff weithio o gartref?
  • A oes angen mynediad arnoch at wasanaethau nad ydynt ar gael ar hyn o bryd yn eich safle dros dro?
  • A ydych chi'n defnyddio unrhyw feddalwedd arbennig neu ddeunydd ysgrifenedig fel ffurflenni? Am ba mor hir y gallwch chi ymdopi hebddynt, a pha mor hir y byddai'n ei gymryd i ailgyflenwi eich stoc?

Dylai eich cynllun ateb pob un o'r cwestiynau uchod ac eraill.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau
Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig