Deddfwriaeth a Rheoliadau

Mae Rheoli Argyfyngau ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig yn cael ei lywodraethu gan amryw ddeddfwriaethau a rheoliadau er mwyn sicrhau bod unrhyw waith cynllunio at argyfwng a chydweithredu rhwng sefydliadau yn cael ei wneud yn gyson ar lefel leol a chenedlaethol.

Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (CCA)

Daeth Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 i rym ar 14 Tachwedd 2005. Ei nod yw sefydlu lefel gyson o amddiffyniad sifil ledled y Deyrnas Unedig. Ewch i dudalen Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 i gael mwy o wybodaeth.

Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999 (COMAH)

Diben rheoliadau COMAH yw atal damweiniau mawr sy'n cynnwys sylweddau peryglus a chyfyngu ar y canlyniadau i'r cyhoedd a'r amgylchedd. Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - COMAH i gael mwy o wybodaeth. 

Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996

Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i'r holl biblinellau yn y DU. Maent yn sicrhau bod pob piblinell yn cael ei dylunio, ei hadeiladu a'i gweithredu'n ddiogel, ac yn darparu modd o sicrhau cyfanrwydd piblinellau, gan felly leihau'r risgiau i'r amgylchedd. Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - Piblinellau i gael mwy o wybodaeth.

Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd am Argyfwng a Gwybodaeth i'r Cyhoedd) 2001 (REPPIR)

Mae'r rheoliadau hyn yn gosod y safonau diogelwch sylfaenol ar gyfer amddiffyn iechyd gweithwyr a'r cyhoedd rhag peryglon ymbelydredd ïoneiddio (Cyfarwyddyd 96 - Safonau Diogelwch Sylfaenol). Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - Ymbelydredd i gael mwy o wybodaeth.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig