Cofrestr Risg Gymunedol

Mae Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 yn mynnu bod Ymatebwyr Lleol yn ymgymryd â nifer o ddyletswyddau. Un o'r rhain yw cynnal a chyhoeddi Cofrestr Risg Gymunedol fel rhan o broses gynllunio seiliedig ar risg. 

Gwneir y gwaith yma gan grŵp o asiantaethau a sefydliadau partner, ynghyd â ni ein hunain, a elwir yn 'Fforwm Cydnerth Lleol'. Diben y fforwm yw sicrhau ymateb cydgysylltiedig i bob math o argyfwng mawr. 

Y gofrestr risg gymunedol yw'r rhan gyntaf o'r broses cynllunio at argyfwng ac mae'n sicrhau bod y cynlluniau a ddatblygir yn gymesur â'r risgiau. 

Diben y gofrestr risg gymunedol yw: 

  • Sicrhau bod gan ymatebwyr lleol ddealltwriaeth drylwyr o'r risgiau y maent yn eu hwynebu, gan roi sylfaen gadarn ar gyfer cynllunio.
  • Darparu sail gadarn ar gyfer blaenoriaethu amcanion, rhaglenni gwaith, a dyrannu adnoddau.
  • Galluogi cynllunio cydgysylltiedig, wedi'i seilio ar ragdybiaethau cynllunio cyson.
  • Rhoi trosolwg sylfaenol o Gynllunio at Argyfwng ar gyfer y cyhoedd a swyddogion.

Mae copi o Gofrestr Risgiau Cymunedol Fforwm Cydnerth Lleol Gwent ar gael i'w gweld yma.

I gael mwy o wybodaeth ac i weld Cofrestr Risg Gymunedol Fforwm Cydnerth Lleol Gwent, ewch i wefan Fforwm Cydnerth Lleol Gwent.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig