Paratoi ar gyfer argyfyngau

Mae Gwasanaeth Rheoli Argyfyngau Torfaen yn darparu swyddogaeth Cynllunio at Argyfwng / Argyfyngau Sifil Posibl 24 awr ar gyfer Cyngor Bwrdesitref Sirol Torfaen. 

Prif rôl y Gwasanaeth Rheoli Argyfyngau yw sicrhau bod y Cyngor yn gallu ymateb i argyfyngau ac amhariadau mawr gan barhau i allu darparu gwasanaethau allweddol. Mae'n gwneud hyn trwy sicrhau bod trefniadau integredig ar waith (cynlluniau, gweithdrefnau, hyfforddiant, ac ati) a fydd yn galluogi'r ymateb i fod mor effeithiol â phosibl. Mae'r trefniadau cynllunio hyn yn cynnwys asiantaethau partner eraill fel yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub, y Gwasanaeth Ambiwlans, y Gwasanaeth Iechyd, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Fyddin, Cwmnïau Cyfleustodau a'r Sector Gwirfoddol. Mae'r trefniadau cynllunio hefyd yn cynnwys Llywodraeth Ranbarthol a Chanolog ac Awdurdodau Lleol eraill. 

Mae Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 yn mynnu bod Ymatebwyr Lleol yn ymgymryd â nifer o ddyletswyddau statudol. Un o'r rhain yw cynnal a chyhoeddi Cofrestr Risg Gymunedol fel rhan o broses gynllunio seiliedig ar risg. 

I gael mwy o wybodaeth am argyfyngau, ewch i wefan y Groes Goch a gwefan Fforwm Cydnerthedd Lleol Gwent newydd.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig