Parhad Busnes

Diben yr arweiniad yn yr adran hon yw rhoi gwybodaeth gyffredinol am gynllunio at argyfwng. Nid yw wedi'i fwriadu i ddisodli arweiniad manwl a chynlluniau sy'n benodol i'ch busnes chi.

Mae Deddf Cynlluniau Wrth Gefn Sifil 2004 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hybu Rheoli Parhad Busnes a, lle bo'n bosibl, rhoi cyngor ar Barhad Busnes i sefydliadau masnachol a gwirfoddol.

Beth yw Parhad Busnes?

Proses reoli yw Rheoli Parhad Busnes sy'n helpu i reoli'r risgiau i weithrediad llyfn sefydliad neu ddarpariaeth gwasanaeth, gan sicrhau y gall parhau i weithredu i'r graddau sy'n ofynnol yn achos unrhyw amhariad.

Term arall a ddefnyddir yn gyffredin yw Adfer Wedi Trychineb, sef dull cytunedig a chynlluniedig o adfer eich seilwaith TGCh critigol yn achos amhariad mawr.

Pam mae Parhad Busnes yn bwysig?

Heb gynllunio parhad busnes yn effeithiol, gallai trychineb naturiol neu o wneuthuriad dyn arwain at unrhyw un o'r canlynol:

  • Methiant llwyr o'ch busnes
  • Colli incwm
  • Colli enw da neu golli eich cwsmeriaid
  • Cosbau ariannol, cyfreithiol a rheoleiddiol
  • Materion adnoddau dynol
  • Effaith ar daliadau neu bremiymau yswiriant

Ffeithiau

  • Mae 80% o fusnesau yr effeithir arnynt gan ddigwyddiad mawr yn cau o fewn mis
  • Mae 90% o fusnesau sy'n colli data o ganlyniad i drychineb yn gorfod cau o fewn 2 flynedd
  • Amharwyd ar 58% o sefydliadau yn y DU gan ddigwyddiad 11 Medi. O'r rhai hynny yr amharwyd arnynt, effeithiwyd yn ddifrifol ar 12%
  • Mae bron i 1 o bob 5 o fusnesau yn dioddef amhariad mawr bob blwyddyn.
Diwygiwyd Diwethaf: 11/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau
Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig