Tywydd Garw

Gall tywydd garw fel gwyntoedd cryfion, llifogydd, eira a thymereddau eithafol achosi difrod i gartrefi a busnesau, peryglu bywydau ac amharu ar drafnidiaeth a gwasanaethau lleol. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn chwarae rhan bwysig wrth asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â thywydd garw a'r ymateb cydgysylltiedig sydd ei angen i adfer ar ôl unrhyw ddigwyddiad tywydd garw.

I gael gwybodaeth am unrhyw rybuddion tywydd cyfredol neu unrhyw dywydd garw a ddisgwylir, ewch i wefan y Swyddfa Dywydd.

Trafnidiaeth a Ffyrdd

Yn ystod tywydd garw gall ffyrdd gael eu blocio a gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn gyfyngedig. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cydlynu'r gwaith o glirio ffyrdd yn y fwrdeistref ac yn ceisio cadw'r prif ffyrdd ar agor fel blaenoriaeth. Mae'n bosibl y bydd ffyrdd preswyl ac is-ffyrdd yn dal i fod heb eu clirio, felly byddwch yn ofalus os ydych yn teithio yn ystod tywydd garw.

Bydd cyngor ynghylch unrhyw ffyrdd sydd ar gau neu gyfyngiadau ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei ddarlledu ar eich gorsafoedd radio lleol ac mae'n bosibl y cewch eich cynghori i adael eich car gartref.

I gael mwy o wybodaeth am gyflwr ffyrdd neu gau ffyrdd:

AA Road Watch - Ffoniwch 0900 340 1100 neu ewch i wefan AA Roadwatch

Gwybodaeth Traffic Wales - Ffoniwch 0845 602 6020 neu ewch i wefan Traffic Wales

Cau Ysgolion

Mae'n bosibl y bydd angen cau ysgolion weithiau yn ystod cyfnodau o dywydd rhewllyd neu eira.

Yn ogystal â diweddariadau gan y cyfryngau lleol, gall trigolion gael diweddariadau rheolaidd ar y wefan hon, neu drwy ddilyn tudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor:

www.twitter.com/torfaencouncil neu www.facebook.com/torfaen

Methiannau Cyfleustodau

Gall cyfnodau o dywydd garw effeithio ar gyflenwad cyfleustodau fel gwasanaethau Pŵer, Dŵr, Nwy a Thelathrebu i gartrefi.

Gellir adrodd am fethiannau cyfleustodau gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen cysylltiadau mewn argyfwng.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau
Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig