Tystysgrifau Diogelwch Meysydd Chwaraeon - Gwneud Cais am Drwydded

Tystysgrifau Diogelwch Meysydd Chwaraeon
Crynodeb o'r Drwydded 

Os ydych chi'n rhedeg maes chwaraeon yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban sydd â lle i fwy na 10,000 o gefnogwyr, mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i chi gael tystysgrif diogelwch.

 

Gall tystysgrif diogelwch naill ai:

 

  • fod yn dystysgrif diogelwch gyffredinol a gyhoeddir er mwyn defnyddio maes chwaraeon ar gyfer gweithgaredd neu weithgareddau penodol, am gyfnod amhenodol, neu
  • gall fod yn dystysgrif diogelwch arbennig ar gyfer defnyddio maes chwaraeon at ddiben gweithgaredd neu weithgareddau penodol ar achlysur neu achlysuron penodol 

Cewch dystysgrifau diogelwch gan eich awdurdod lleol.

 

Er mwyn bod yn gymwys i gael tystysgrif diogelwch, rhaid i chi fod yn debygol o fod mewn sefyllfa i atal torri telerau ac amodau tystysgrif.

 

Mae'n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw delerau neu amodau sydd ynghlwm wrth dystysgrif.

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith

Mae gwybodaeth am ddeddfwriaeth meysydd chwaraeon i'w chael yn Neddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975

 

Mae rhestr o'r ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar feysydd chwaraeon i'w chael fan yma.

Sut i wneud cais

Os ydych yn dymuno gwneud cais am dystysgrif diogelwch neu newid manylion tystysgrif gyfredol, lawrlwythwch gopi o'r ffurflen gais fan yma.

Ffïoedd ymgeisio

Lawrlwythwch gopi o'r Ffïoedd Trwyddedu

Y broses ymgeisio

Mae'n rhaid i ymgeiswyr roi'r wybodaeth a'r cynlluniau y gofynnir amdanynt i'r awdurdod lleol o fewn yr amser penodedig. Os yw'r ymgeisydd yn methu â darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani o fewn y cyfnod penodedig, ystyrir bod y cais wedi'i dynnu'n ôl.

 

Bydd awdurdod lleol yn ystyried a yw'r ymgeisydd mewn sefyllfa i atal unrhyw achos o dorri telerau ac amodau tystysgrif.

 

Rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o gais am dystysgrif diogelwch at brif swyddog heddlu'r ardal ac i'r awdurdod tân ac achub. Rhaid ymgynghori â'r ddau gorff hyn ynghylch y telerau ac amodau a fydd yn cael eu cynnwys mewn tystysgrif.

 

Os gwneir cais am drosglwyddo tystysgrif, rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu a fyddai'r unigolyn y bwriedir trosglwyddo'r dystysgrif iddo yn gymwys i gael tystysgrif, pe bai'r unigolyn hwnnw yn gwneud cais. Gall yr ymgeisydd fod yn ddeiliad presennol y dystysgrif neu'r unigolyn y bwriedir trosglwyddo'r dystysgrif iddo.

 

Rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o gais trosglwyddo at brif swyddog heddlu'r ardal, i'r awdurdod tân ac achub os nad nhw yw'r awdurdod hwnnw ac i'r awdurdod adeiladu os nad nhw yw'r awdurdod hwnnw yng Nghymru a Lloegr. Yn yr Alban, bydd awdurdod lleol yn anfon cais at brif swyddog yr heddlu ac naill ai'r awdurdod tân neu'r awdurdod adeiladu. Bydd yr awdurdod lleol yn ymgynghori â'r cyrff hyn ynghylch unrhyw ddiwygio, ailgyflwyno neu drosglwyddo arfaethedig.

 

Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn cydymffurfio â'r amodau trwyddedu.

 

Bydd maint a chymhlethdod maes chwaraeon neu eisteddle rheoledig, a gallu rheolwyr y safle i ddarparu gwybodaeth a chyflawni unrhyw waith gofynnol, yn effeithio ar yr amser a fydd ynghlwm wrth y camau amrywiol sy'n angenrheidiol i baratoi, cyhoeddi a monitro Tystysgrif Diogelwch Gyffredinol. Sylwer, gallai gymryd rhai misoedd i gwblhau'r broses a chyhoeddi tystysgrif.

 

Pan fydd eich safle'n cael tystysgrif, byddwn yn arolygu fel y bo'n briodol ac ar adeg adnewyddu eich tystysgrif, a gallem hefyd gynnal ymweliadau achlysurol. Fel rhan o'r broses rhoi tystysgrif, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch busnes.

 

Sylwer, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan a gallem rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill hefyd fel y bo'n briodol.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nid yw cymeradwyaeth ddealledig yn berthnasol i'r drwydded hon oherwydd, er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni i gael diweddariad ynghylch eich cais.

 

Sylwch, bydd y broses gymeradwyo gyfan yn cymryd mwy na 28 diwrnod er mwyn caniatáu am y prosesau ymgynghori angenrheidiol.

Apeliadau a Chwynion

Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a gyflwynir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol.

 

Os gwrthodir rhoi tystysgrif diogelwch i ymgeisydd gan nad ystyrir ei fod yn unigolyn cymwys, caiff yr ymgeisydd gyflwyno apêl i'r Llys Ynadon. Os gwrthodir rhoi tystysgrif diogelwch i ymgeisydd am resymau heblaw am benderfyniad nad yw'n unigolyn cymwys, caiff yr ymgeisydd hefyd gyflwyno apêl i'r Llys Ynadon yn erbyn hyn.

 

Os yw unrhyw ddeiliad trwydded yn dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm wrth dystysgrif diogelwch neu unrhyw beth sydd wedi'i hepgor ohoni, neu apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod diwygio tystysgrif diogelwch neu gyflwyno tystysgrif newydd, caiff gyflwyno apêl i'r Llys Ynadon. Hefyd, caiff apelio i'r Llys Sirol yn erbyn gorchymyn gan y Llys Ynadon.

 

Caiff unrhyw unigolyn sy'n ymwneud â sicrhau cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau'r dystysgrif diogelwch apelio i'r Llys Ynadon yn erbyn unrhyw amod sydd ynghlwm wrth dystysgrif diogelwch neu unrhyw beth sydd wedi'i hepgor ohoni, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod diwygio tystysgrif diogelwch neu gyflwyno tystysgrif diogelwch newydd.

Cymdeithasau Masnach

Ffederasiwn y Cymdeithasau Chwaraeon a Chwarae (FSPA)

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/05/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Commercial Services

Ffôn: 01633 647263

E-bost: commercial.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig