Tyrau Oeri

Mae tyrau oeri yn darparu dŵr wedi'i oeri at ddibenion aerdymheru, gweithgynhyrchu a chynhyrchu pŵer trydan. Mae'r rhain i'w cael mewn llawer o safleoedd mawr, fel gwestai, canolfannau hamdden, ffatrïoedd a chanolfannau siopa.

Prif ddiben y rheoliadau hyn yw atal Legionellosis (clefyd y llengfilwyr) a helpu i ymchwilio i achosion ohono.

Mae diffyg cynnal a chadw systemau oeri dŵr yn gallu arwain at amodau lle y gall achosion o glefyd y llengfilwyr ddigwydd – mae hyn yn aml yn gallu achosi salwch difrifol a hyd yn oed marwolaeth. I gael mwy o wybodaeth am glefyd y llengfilwyr a sut y caiff ei reoli, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

O dan Reoliadau Hysbysu Tyrau Oeri a Chyddwysyddion Anweddol 1992, mae'n ddyletswydd ar unrhyw un sy'n gyfrifol am safle sydd â thŵr oeri'n rhan ohono i hysbysu'r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am fanylion unrhyw 'ddyfeisiadau hysbysadwy', a diweddaru'r manylion hynny fel bo'r angen.

Hyd yn oed os yw'r safle dan orfodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), rhaid i chi hysbysu'r awdurdod lleol o hyd.

Mae 'dyfeisiadau hysbysadwy' yn cynnwys tyrau oeri a chyddwysyddion anweddol, heblaw pan fyddant yn cynnwys dŵr nad yw'n dod i gysylltiad ag aer a phan nad yw'r cyflenwadau dŵr a thrydan wedi'u cysylltu.

Os nad oes angen tŵr mwyach ac mae'n cael ei ddatgomisiynu neu ei ddatgymalu, dylid hysbysu'r awdurdod lleol am hyn hefyd.

Os oes angen i chi gofrestru tŵr oeri neu newid manylion tŵr a gofrestrwyd eisoes, mae'r ffurflenni cais a'r wybodaeth angenrheidiol i'w cael yn y fan hon.

Os ydych yn pryderu am dŵr oeri gan eich bod yn tybio nad yw wedi'i gofrestru neu na chaiff ei gynnal yn briodol, dylech gysylltu â ni fel y gallwn gynnal ymchwiliad.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig