Gwerthiannau Cist Car- Gwneud Cais am Drwydded
Arwerthiannau Cist Car
| Crynodeb o'r Drwydded | Er mwyn cynnal arwerthiant cist car, mae'n bosibl y bydd angen i chi gael caniatâd masnachu ar y stryd gan yr awdurdod lleol lle y cynhelir yr arwerthiant. | 
|---|
| Meini Prawf Cymhwysedd | Nid oes darpariaeth mewn rheoliadau | 
|---|
| Crynodeb o'r Rheoliad | Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon | 
|---|
| Proses Gwerthuso Cais | Rhaid i ymgeiswyr roi o leiaf un mis o rybudd i'r cyngor bwrdeistref o'u bwriad i gynnal arwerthiant cist car (neu ganiatáu i'w tir gael ei ddefnyddio ar gyfer arwerthiant cist car).   Rhaid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig (gan gynnwys yn electronig) a chynnwys enw a chyfeiriad yr ymgeisydd, ble a phryd y mae'n dymuno masnachu ac enw a chyfeiriad meddiannwr y safle hwnnw, os yw'n wahanol i'r ymgeisydd. | 
|---|
| A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? | Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed. | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus | Cysylltwch â'r tîm trwyddedu.   Ffôn: 01633 647279E-bost: licensing@torfaen.gov.uk
 | 
|---|
| Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded | Cysylltwch â'r tîm trwyddedu.   Ffôn: 01633 647279E-bost: licensing@torfaen.gov.uk
 | 
|---|
| Cwynion gan Ddefnyddwyr | Byddem yn cynghori bob amser bod mewn achos o gwyn y cyswllt cyntaf yn cael ei wneud â'r masnachwr - a hynny'n ddelfrydol ar ffurf llythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny wedi gweithio, os ydych yn byw yn y DU, bydd y Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Safonau Masnach Torfaen hefyd yn cael cyngor Sêl Cist Car. O'r tu allan i'r DU cysylltwch â'r UK European Consumer Centre. | 
|---|
| Camau Unioni Eraill | E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall. Cysylltwch â'r tîm trwyddedu.    Ffôn: 01633 647279 E-bost: licensing@torfaen.gov.uk | 
|---|
| Cymdeithasau Masnach | Dim | 
|---|
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.
 Diwygiwyd Diwethaf: 28/09/2020 
 Nôl i’r Brig