Ailbrisio Ardrethi Annomestig 2026
Bob tair blynedd mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn diweddaru gwerthoedd ardrethol dros 2 filiwn o eiddo masnachol yng Nghymru a Lloegr. Mae'r broses hon yn adlewyrchu newidiadau yn y farchnad ac fe'i gelwir yn ailbrisio.
Bydd yr ailbrisiad nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026.
Gwerthoedd ardrethol yw'r swm o rent y gellid bod wedi'i godi ar eiddo ar ddyddiad prisio penodol. O ran dyddiad ailbrisio 2026, y dyddiad hwnnw yw 1 Ebrill 2024. Nid yw eich gwerth ardrethol yr un fath â'r rhent rydych chi'n ei dalu ar eich eiddo.
Fel eich cyngor lleol, rydym yn defnyddio'r gwerthoedd ardrethol hyn i gyfrifo biliau ardrethi busnes.
Wrth ailbrisio, gall biliau ardrethi busnes gynyddu, gostwng neu aros yr un peth. Nid yw cynnydd yn eich gwerth ardrethol o reidrwydd yn golygu y bydd eich bil ardrethi busnes yn cynyddu o ryw swm tebyg.
Cysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Fel eich cyngor lleol, rydym yn gyfrifol am unrhyw beth sy'n ymwneud â'ch bil ardrethi busnes gan gynnwys ychwanegu unrhyw ryddhad y gallech fod yn gymwys i’w gael.
Mae'r VOA yn gyfrifol am brisio eich eiddo. Felly, bydd angen i chi gysylltu â’r VOA os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich gwerth ardrethol.
Dod o hyd i'ch gwerth ardrethol
Gallwch nawr weld gwerth ardrethol eich eiddo ar hyn o bryd ac yn y dyfodol trwy wasanaeth dod o hyd i brisiad ardrethi busnes y VOA ar gov.uk.
Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i weld y manylion sydd gan y VOA am eich eiddo a chymharu gwerth ardrethol eich eiddo ag eiddo tebyg yn yr ardal.
Beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl bod eich prisiad yn anghywir
Os ydych chi'n meddwl bod eich prisiad yn anghywir, neu os ydych eisiau newid manylion eich eiddo (fel maint arwynebedd llawr a pharcio) bydd angen cyfrif prisio ardrethi busnes arnoch.
Er na allwch herio eich prisiad ar gyfer 2026 tan 1 Ebrill, gallwch ddiweddaru manylion eich eiddo os ydynt yn anghywir drwy gynnal Chwiliad yn erbyn eich prisiad cyfredol, a hynny trwy eich cyfrif prisio ardrethi busnes.
Gallai unrhyw newidiadau i’ch prisiad yn 2023 arwain at gynnydd neu ostyngiad ar eich gwerth ardrethol. Gall hyn hefyd effeithio ar eich prisiad yn y dyfodol o 1 Ebrill 2026.
Mae gennych tan 31 Mawrth 2026 i ofyn am unrhyw newidiadau i'ch gwerth ardrethol ar gyfer 2023 gan ddefnyddio'ch cyfrif prisio ardrethi busnes. Ar ôl 1 Ebrill 2026, gallwch wneud newidiadau i’ch prisiad newydd yn unig.
Gweithio gydag asiant ardrethi busnes
Gallwch reoli eich ardrethi busnes eich hun. Os ydych chi am benodi asiant, mae’r VOA wedi cyhoeddi canllaw gwybodaeth yn egluro sut i fynd ati i ddewis asiant ardrethi busnes.
Diwygiwyd Diwethaf: 20/03/2026
Nôl i’r Brig