Sut y cyfrifir fy ardrethi busnes?
Mae Ardrethi Busnes yn daladwy gan ddeiliaid pob eiddo annomestig/busnes yn yr un ffordd ag y mae treth y cyngor yn dreth ar eiddo domestig.
Mae ardrethi busnes yn cael eu codi ar y rhan fwyaf o eiddo busnes fel siopau, swyddfeydd, tafarnau storfeydd a ffatrïoedd. Ond, nid oes rhaid i’r eiddo fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer busnes – os yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer pwrpasau nad sy’n ddomestig mae’n debygol o fod yn drethiannol.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn pennu gwerth ardrethol yr eiddo busnes gan ddefnyddio manylion am yr eiddo fel gwybodaeth ynglŷn â rhent. Rydym yn defnyddio’r gwerth ardrethol a’r lluosydd ardrethol annomestig cenedlaethol (sy’n cael ei osod gan lywodraeth ganolog) i gyfrif eich bil ardrethi busnes.
Beth yw’r Lluosydd Ardrethi Annomestig Cenedlaethol?
Dyma’r gyfradd yn y bunt sy’n cael ei lluosi â’r gwerth ardrethol i gyfrifo bil ardrethi blynyddol ar gyfer eiddo.
Yr un yw’r lluosydd a bennir yn flynyddol gan Weinidogion Cymru ar gyfer Cymru gyfan. Y lluosydd ar gyfer 2025/26 oedd 0.568.
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, mae tri lluosydd a all fod yn berthnasol i eiddo yng Nghymru. Dyma’r lluosyddion ar gyfer 2026/27:
- lluosydd manwerthu o 0.350, sy’n berthnasol i siopau manwerthu bach i ganolig eu maint gyda gwerth trethiannol islaw £51,000
- lluosydd safonol o 0.502, sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o eiddo eraill
- lluosydd uwch o 0.515, sy’n berthnasol i eiddo â gwerth trethiannol uwchlaw £100,000
Mae canllawiau ar gymhwyso’r lluosyddion hyn ar gael ar wefan Busnes Cymru
Gwybodaeth Bellach
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.gov.uk a businesswales.gov.wales
Diwygiwyd Diwethaf: 20/03/2026
Nôl i’r Brig