Ffyrdd o Dalu Torfaen

Drwy'r Rhyngrwyd

Gallwch dalu eich treth gyngor, trethi busnes, gordaliadau budd-dal tai ac anfonebau'r Cyngor ar-lein trwy'r Rhyngrwyd gan ddefnyddio eich cerdyn debyd neu gredyd. Mae'r dull hwn o dalu yn gwbl ddiogel ac mae'n gyflym a hawdd ei ddefnyddio. Os hoffech gael mwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen talu ar-lein neu gallwch gwneud taliad yma.

Yn Bersonol

Gydag arian parod, siec neu Gerdyn Debyd neu Gredyd yn unrhyw un o'r swyddfeydd canlynol: 

Canolfan Gofal Cwsmeriaid Cwmbrân
Llyfrgell Cwmbrân
Tŷ Gwent
Sgwâr Gwent
Cwmbrân
NP44 1XQ

Canolfan Cwsmeriaid Pont-y-pŵl
Llawr 1
Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
NP4 6YB

Canolfan Cwsmeriaid Blaenafon
Byd i'r Ganolfan Adnoddau
Middle Coed Cae Road
Blaenafon
NP4 9AW

Rhoddir yr amseroedd agor yn yr adran Canolfannau Gofal Cwsmeriaid ar y wefan.

Drwy'r Post

Dylech wneud sieciau neu archebion post yn daladwy i 'Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen'.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod ar gefn y siec a'i hanfon at:

Y Prif Swyddog Ariannol
Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 6YB

Peidiwch ag anfon arian parod drwy'r post.

Gwasanaeth Talu Awtomataidd dros y Ffôn

Gallwch dalu eich Treth Gyngor, Trethi Busnes, Gordaliadau Budd-dal Tai ac anfonebau'r Cyngor trwy Wasanaeth Talu Awtomataidd dros y Ffôn Torfaen gan ddefnyddio eich cerdyn debyd. Byddwch yn clywed gwybodaeth a recordiwyd a gofynnir i chi roi manylion eich trafodyn gan ddefnyddio bysellau'r set law ar eich ffôn.

Y rhif ffôn yw 0300 4560516 (codir tâl galwad lleol).

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael yn barhaus.

Dros y Ffôn i 'Galw Torfaen'

Os byddai'n well gennych siarad â Swyddog Gwasanaethau Cwsmeriaid, gallwch ffonio 01495 762200 rhwng 8:30am a 5pm. Mae'r cyfleuster hwn ar gael i dalu unrhyw arian sy'n ddyledus i'r Awdurdod trwy gerdyn debyd neu gredyd.

Drwy Ddebyd Uniongyrchol

Gallwch dalu eich cyfrif Treth y Cyngor, cyfrif Trethi Busnes neu anfoneb Mân Ddyledwyr trwy Ddebyd Uniongyrchol. Gallwch gofrestru i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol neu siarad â Thîm Gofal Cwsmeriaid Torfaen ar 01495 762200.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Trethi Busnes

Ffôn: 01495 762200

Ebost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig