A oes unrhyw ryddhad ar gael?

Mae amryw o ffyrdd y gall eich bil ardrethi busnes gael ei leihau. Mae'r rhain yn cynnwys:

Canllawiau ar Ryddhad Gwelliannau

O 1 Ebrill 2024, mae Rhyddhad Gwelliannau ar gael gan Lywodraeth Cymru i drethdalwyr sy’n buddsoddi mewn gwelliannau i’w heiddo annomestig, i gefnogi eu busnesau.

Mae Canllawiau ar Ryddhad Gwelliannau ar gael yma.

Canllawiau ar Ryddhad Rhwydweithiau Gwresogi

O 1 Ebrill 2024, mae Rhyddhad Rhwydweithiau Gwresogi ar gael Lywodraeth Cymru.

Mae Canllawiau ar Ryddhad Rhwydweithiau Gwresogi ar gael yma.

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2023/24

Mae’r rhyddhad hwn wedi’i anelu at fusnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i gyflwyno’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau cymwys ar gyfer 2023-24.

Nod y cynllun yw darparu cymorth ar gyfer eiddo a feddiannir sy’n gymwys, drwy gynnig gostyngiad o 75% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o'r fath.

Bydd y cynllun yn berthnasol i bob busnes cymwys, fodd bynnag bydd y rhyddhad yn amodol ar gap yn y swm y gall pob busnes ei hawlio ledled Cymru.

Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo a feddiannir gan yr un busnes.

Mae’n ofynnol i bob busnes ddatgan nad yw swm y rhyddhad y maent yn ei geisio ledled Cymru yn fwy na’r cap hwn, wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol.

Mae mwy o fanylion am y cynllun ar gael ar https://businesswales.gov.wales

Gwnewch gais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru 2023/24

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2024/25

Mae’r rhyddhad hwn wedi’i anelu at fusnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau sy’n gymwys ar gyfer 2023-24.

Nod y cynllun yw darparu cymorth i eiddo cymwys sydd wedi’i feddiannu drwy gynnig 40% o ostyngiad ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o’r fath.

Bydd y cynllun ar gael i bob busnes cymwys, fodd bynnag bydd uchafswm i swm y rhyddhad y caiff busnesau ei hawlio ar draws Cymru.

Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo sy’n cael eu defnyddio gan yr un busnes. 

Mae angen i bob busnes ddatgan nad yw swm y rhyddhad y maent yn gwneud cais amdano ar draws Cymru yn fwy na’r uchafswm wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol.

Mae rhagor o fanylion am y cynllun ar gael ar www.businesswales.gov.wales

Gwneud cais am y Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru 2024/25

Rhyddhad Elusennol a Dewisol

Mae gan elusennau hawl i gael rhyddhad ar unrhyw eiddo annomestig sy'n cael eu defnyddio yn gyfan gwbl ac yn bennaf at ddibenion elusennol. Rhoddir gostyngiad o 80% o'r bil ardrethi. Mae gan y Cyngor ddisgresiwn i ildio'r cyfan neu ran o'r 20% sy'n weddill o fil elusen ar eiddo o'r fath a hefyd roi rhyddhad ar eiddo a feddiennir gan gyrff penodol nad ydynt wedi'u sefydlu nac yn rhedeg i wneud elw.

Rhyddhad Gorfodol (Uchafswm o 80%)

Mae deiliaid o'r canlynol yn gymwys i gael rhyddhad gorfodol:

  • Eiddo Annomestig a feddiannir gan elusen neu ymddiriedolwyr elusen os yw'r eiddo yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion elusennol.
  • Adeiladau annomestig a feddiannir gan sefydliad, sydd, er nad yn elusen gofrestredig, ag amcanion elusennol. Rhaid darparu copi o'r Erthyglau Cymdeithasu neu gyfansoddiad y sefydliad i'w harchwilio gan y cyngor.
  • Mewn achosion siopau elusennol, rhaid defnyddio'r eiddo yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer gwerthu nwyddau a roddwyd i'r elusen a defnyddio elw'r gwerthiant at ddibenion yr elusen.
  • Adeiladau annomestig a feddiennir gan glybiau chwaraeon amatur cymunedol, ar yr amod bod y clybiau hyn yn cael eu diffinio a'u cofrestru gyda Chyllid a Thollau EM. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan  Cyllid a Thollau EM.

Rhyddhad yn ôl Disgresiwn (Uchafswm o 100%)

Mae gan y Cyngor bŵer dewisol i roi rhyddhad rhag trethi mewn perthynas ag eiddo annomestig a feddiennir gan un o'r canlynol:

  • Sefydliadau di -elw a’u prif amcanion yn elusennol, llesol, crefyddol, neu’n ymwneud ag addysg, lles cymdeithasol, gwyddoniaeth, llenyddiaeth neu'r celfyddydau cain
  • sefydliadau di- elw sy’n meddiannu eiddo yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion adloniant
  •  Sefydliadau sydd â hawl i ryddhad gorfodol fel y nodir uchod.

Mae pob cais am ryddhad dewisol yn cael ei ystyried ar sail unigol. Bydd yr Aelod Gweithredol dros Gyllid yn ystyried y meini prawf y mae'n rhaid i sefydliad gydymffurfio ag ef.

Mae mwy o wybodaeth ar Bolisi Ryddhad Ardrethi Dewisol Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac Arweiniad Trethi Annomestig Llywodraeth Cymru ar gyfer Elusennau ar gael yma.

I gyflwyno cais, argraffwch a chwblhewch y Ffurflen Rhyddhad Dewisol/Gorfodol ynghlwm.

Rhyddhad Caledi

O dan adran 49 o Ddeddf 1988, mae gan awdurdodau bwerau i roi rhyddhad o hyd at 100% i dalwr ardrethi sy’n profi caledi os:

  • byddai'r trethdalwr yn dioddef caledi pe na bai'r awdurdod yn dyfarnu rhyddhad; a
  • ei bod yn rhesymol i'r awdurdod wneud hynny, gan ystyried buddiannau trethdalwyr lleol.

Gwnewch gais ysgrifenedig gyda thystiolaeth i gefnogi eich achos. Ni ellir ystyried achosion sy'n dibynnu ar ystyriaethau ariannol y trethdalwr yn unig gan ei bod yn briodol ystyried buddiannau'r gymuned.

Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach

Mae cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach parhaol yn cael ei gyflwyno yng Nghymru o 1 Ebrill 2018. I gael gwybodaeth am y cynllun cyn 1 Ebrill 2018 gweler taflen Rhyddhad Ardrethi a Ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Busnesau sy’n gymwys

Mae’r cynllun yn caniatáu ar gyfer y rhyddhad a ganlyn:

  • Mae'r mwyafrif o eiddo a feddiannir â gwerth ardrethol o £6,000 neu lai yn gymwys i gael rhyddhad o 100%.
  • Mae cyfradd y rhyddhad yn gostwng o 100% i 0% ar gyfer eiddo sydd â gwerth ardrethol o rhwng £6,001 a £12,000. Mae rheolau gwahanol yn berthnasol i swyddfeydd post ac eiddo a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer gofal plant gan ddarparwyr gofal plant cofrestredig.

Swyddfeydd Post

  • Bydd Swyddfeydd Post (ac eiddo sy'n cynnwys swyddfa bost) gyda gwerth ardrethol o hyd at £9,000 yn cael rhyddhad o 100%.
  • Bydd Swyddfeydd Post (ac eiddo sy'n cynnwys swyddfa bost) gyda gwerth ardrethol o rhwng £9,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad o 50%.

Safleoedd Gofal Plant Cofrestredig

  • I adeiladau gofal plant cofrestredig a ddefnyddir yn bennaf at ddibenion gofal plant neu ofal dydd gan berson a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, mae cyfradd y rhyddhad yn gostwng o 100% i 0% ar gyfer eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £20,500.
  • O 1 Ebrill 2019, mae'r cynllun yn gwella i ddarparu 100% o ryddhad i eiddo sydd â gwerth ardrethol sy'n llai na £100,000. This has been extended for another three years to 31 March 2025.

Ardrethi Busnesau Bach i fusnesau lluosog

Mae'r cynllun newydd yn cyfyngu ar nifer yr eiddo sy'n gymwys i gael rhyddhad sy'n bodloni'r amodau gwerth ardrethol i ddau fesul trethdalwr ym mhob ardal awdurdod lleol. Pan fydd trethdalwr yn atebol am fwy na dau eiddo, dyfernir rhyddhad ardrethi busnesau bach i'r ddau eiddo sy'n sicrhau bod trethdalwr yn derbyn y rhyddhad mwyaf posibl o dan y cynllun.

Cyfrifoldeb y trethdalwr yw hysbysu'r Cyngor os ydynt ar hyn o bryd yn derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ar fwy na dau eiddo maen nhw'n gyfrifol am dalu ardrethi busnes arnynt.

I roi gwybod am newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich cynhwysedd i dderbyn rhyddhad, a fyddech cystal â chysylltu â ni.

Cymhwyster ar gyfer Rhyddhad

I fod yn gymwys ar gyfer rhyddhad, mae'n rhaid i bob eiddo busnes gael ei feddiannu'n gyfan gwbl. Fodd bynnag, nid yw'r mathau canlynol o eiddo yn gymwys i gael y rhyddhad

  • eiddo a feddiannir gan gyngor, awdurdod heddlu neu'r Goron;
  • eiddo a feddiannir gan elusennau neu gan glybiau cofrestredig neu gan gyrff di- elw lle mae eu prif amcanion yn ddyngarol neu grefyddol neu'n ymwneud ag addysg, lles cymdeithasol, gwyddoniaeth, llenyddiaeth neu'r celfyddydau cain;
  • cytiau traeth;
  • hawliau hysbysebu; 
  • meysydd parcio a mannau parcio ceir;
  • gwaith trin carthion; 
  • gorsafoedd cyfathrebu electronig

Sut i wneud cais

Os oes gwerth ardrethol o hyd at £12,000 o ryddhad ardrethi busnesau bach ar yr eiddo yr ydych yn ei feddiannu, mae rhyddhad ardrethi yn cael ei gymhwyso'n awtomatig i'ch bil felly nid oes angen i chi wneud cais.

Os ydych chi'n credu bod yr eiddo yr ydych chi'n ei feddiannu yn bodloni'r meini prawf ar gyfer adeiladau Gofal Plant Cofrestredig neu Swyddfa Bost, cysylltwch â ni gan fod angen cadarnhad ysgrifenedig cyn y gellir dyfarnu'r rhyddhad.

Trethiant Eiddo Gwag

Gall eiddo annomestig, gwag, fod yn atebol am ardrethi eiddo gwag. Codir cyfraddau o 100 % o'r rhwymedigaeth arferol. Mae rhwymedigaeth yn dechrau pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am dri mis, neu, yn achos ffatrïoedd a warysau, pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am chwe mis. Mae rhai mathau o eiddo gwag wedi'u heithrio rhag ardrethi eiddo gwag. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Eiddo sydd â gwerth ardrethol o lai na £2,600 (o 01/04/11). Cyn hyn y terfyn oedd £15,000 ar gyfer y cyfnod 01/04 / 09-31 / 03/10 a £18,000 ar gyfer y cyfnod 01/04 / 10-31 / 03/11;
  • Henebion ac adeiladau rhestredig;
  • Eiddo na ellir eu meddiannu oherwydd y gyfraith; 
  • Eiddo ble mae'r person sydd â hawl i fyw yn ddatodwr neu ymddiriedolwr mewn methdaliad;
  • Eiddo ble mae'r person sydd â hawl i’w feddiannu yn ysgutor ar gyfer person sydd wedi marw;
  • Eiddo sy'n eiddo i elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol os mai defnydd nesaf yr eiddo yn debygol o fod yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion elusennol neu at ddibenion clwb chwaraeon;
  • Eiddo ble mae'r person sydd â hawl i’w feddiannu yn weinyddwr (Daeth hyn i rym o 01 Tachwedd 2008).

Rhyddhad Trosiannol

Ar ôl i Asiantaeth y Swyddfa Brisio ailbrisio ardrethi annomestig yn 2017 bydd rhyddhad trosiannol yn cael ei weithredu i gefnogi trethdalwyr y bydd eu cymhwyster i dderbyn Rhyddhad Trethi i Fusnesau Bach (SBRR) yn teimlo effaith yr ailbrisio.

Bydd y cynllun rhyddhad trosiannol yn cael ei gyflwyno i gynorthwyo trethdalwyr sy'n derbyn SBRR ar 31 Mawrth, 2017 yn profi gostyngiad yn y ganran o SBRR mae ganddynt hawl iddo ar 1 Ebrill 2017 o ganlyniad cynnydd yn eu gwerth ardrethol yn dilyn yr ailbrisio. Yr unig gafeat i hyn yw bod yn rhaid i effaith y symud / gostyngiad yn y SBRR weld cynnydd o dros £100.00 yn y bil. Os yw'n llai na £100.00, yna ni fydd unrhyw hawl i drosiant am ei fod yn cael ei ystyried yn de-minimus.

Bydd SBRR yn cael ei gymhwyso cyn rhyddhad trosiannol. Bydd y fath rhyddhad trosiannol yn gweithio drwy gyflwyno unrhyw gynnydd canlyniadol mewn atebolrwydd yn raddol dros gyfnod o 3 blynedd (25% o gynnydd mewn atebolrwydd ym mlwyddyn 1, 50% ym mlwyddyn 2 a 75% ym mlwyddyn 3.

Trethdalwyr sy’n gymwys yw’r rheini:

  • sy’n symud o SBRR llawn i SBRR rhannol
  • symud o SBRR llawn i ddim SBRR
  • symud o SBRR rhannol i ddim SBRR
  • cadw at SBRR rhannol ond gweld cynnydd mewn gwerth trethiannol
Diwygiwyd Diwethaf: 14/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Ardrethi Busnes

Ffôn: 01495 766125

Ebost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig