Symud, Ehangu neu Gau
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni os byddwch yn symud adeiladau busnes, rhoi'r gorau fasnachu neu cymryd drosodd adeiladau ychwanegol.
I roi gwybod i ni am unrhyw un o'r newidiadau hyn, argraffwch a chwblhewch y Ffurflen Ymholiadau Trethi Busnes.
Dyletswydd i hysbysu newidiadau
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, mae gan dalwyr Trethi Busnes atebol yng Nghymru ddyletswydd i ddweud wrth eu hawdurdod lleol am newidiadau mewn amgylchiadau sy’n effeithio ar eu hatebolrwydd Trethi Busnes. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau mewn meddiannaeth ac mae hyn yn cynnwys symud i mewn ac allan o safle busnes. Rhaid hysbysu ni am newidiadau o fewn 60 diwrnod, os na fyddwch yn dweud wrthym efallai y byddwn yn rhoi dirwy o £500.
Diwygiwyd Diwethaf: 20/03/2026
Nôl i’r Brig