Plastig sy'n ymestyn

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda chwmni lleol, Capital Valleys Plastics, i ailgylchu plastig sy’n ymestyn yn y fwrdeistref.

Pa blastig sy’n ymestyn sy’n medru cael ei ailgylchu?

Ie plîs

  • Unrhyw fagiau nwyddau 5c neu 10c/bagiau am oes
  • Swigod lapio (wedi ei wasgu byddai orau)   
  • Bagiau bara
  • Plastig sy’n dal chwe phecyn cwrw/diod
  • Deunydd pacio caniau neu gartonau diod
  • Unrhyw blastig glân sy’n ymestyn sy’n dangos logos ailgylchu penodol

Na dim diolch

  • Bagiau salad/bwyd sydd ddim yn ymestyn
  • Deunydd paciau cig amrwd neu wedi’i goginio
  • Poteli neu gloriau plastig
  • Polystyren o unrhyw fath
  • Platiau neu gyllyll a ffyrc plastig
  • Bagiau baw cŵn bioddiraddadwy
  • Haenen lynu

I ble allaf fynd a fy mhlastig sy’n ymestyn i’w ailgylchu?

Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Gallwch ailgylchu plastig sy’n ymestyn yn y  Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref 

yn Y Dafarn Newydd.

Mannau gollwng yn y gymuned

Mae’r busnesau canlynol yn Nhorfaen yn casglu plastig sy’n ymestyn:

  • Capital Valley Plastics, Cwmafon

Byddwn yn parhau i ychwanegu at y rhestr wrth i fannau gollwng newydd ddod i’r amlwg.

Archfarchnadoedd

Fe gewch wybod pa archfarchnadoedd yn agos atoch chi sy’n ailgylchu plastig sy’n ymestyn, drwy roi clic ar www.recyclenow.com/repeat-the-cycle

Beth sy’n digwydd i fy mhlastig sy’n ymestyn?

Mae plastig sy’n ymestyn yn cael ei ailgylchu a’i droi’n haen ar gyfer y diwydiant adeiladu. Dysgwch mwy ar wefan  Capital Valley Plastic .

Diwygiwyd Diwethaf: 07/02/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: waste@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig