CC Codi'r Gyfradd

Yma, rydym yn ateb eich cwestiynau am yr ymgyrch newydd i gynyddu ailgylchu’r cartref i 70 y cant. 

Pam ddaethoch chi â’r ymgynghoriad ar leihau casgliadau sbwriel i ben yn gynnar? 

Cafodd y penderfyniad ei wneud gan Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd mewn ymateb i bryderon am y cynlluniau i leihau nifer y casgliadau gwastraff i bob tair neu bob pedair wythnos. Roedd y cynigion yn rhan o gyfres o gynlluniau i gynyddu cyfraddau ailgylchu gwastraff y cartref yn Nhorfaen i 70 y cant erbyn 2025, yn unol â tharged newydd Llywodraeth Cymru.  Serch hynny, bydd dulliau amgen yn cael eu hystyried nawr er mwyn cynyddu cyfraddau ailgylchu.  Gallwch wylio neges fideo gan Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt, yma. 

Ydy hyn yn golygu y bydd casgliadau biniau clawr porffor yn parhau i ddigwydd pob pythefnos?  

Ydy, bydd casgliadau biniau clawr porffor yn parhau i ddigwydd pob pythefnos tra bod ymgyrch i gynyddu cyfraddau ailgylchu gwastraff wedi cychwyn. Ond, mae Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt, wedi dweud y bydd newidiadau system efallai’n cael eu hystyried y flwyddyn nesaf os nad yw cyfraddau’n gwella. 

Beth fydd ymgyrch Codi’r Gyfradd yn cynnwys? 

Bydd yr ymgyrch yn ceisio cynyddu cyfraddau ailgylchu gwastraff y cartref heb wneud newid i’n systemau. Bydd yn cynnwys mwy o wybodaeth gyhoeddus ac addysg ynglŷn â’r hyn sy’n gallu cael ei ailgylchu yn Nhorfaen, gwelliannau i’r gwasanaeth ailgylchu a mwy o gefnogaeth gydag ailgylchu i drigolion sy’n byw mewn fflatiau.  Bydd awgrymiadau gan drigolion yn ystod yr ymgynghoriad hefyd yn rhan o'r ymgyrch a bydd arolwg cyhoeddus newydd yn cael ei lansio fis Mai. 

Faint sydd rhaid cynyddu cyfraddau ailgylchu?  

Mae cyfraddau ailgylchu gwastraff cartref yn Nhorfaen tua 62 y cant ac mae angen iddyn nhw gynyddu i 70 y cant erbyn 2025. Bydd ymgyrch Codi’r Gyfradd yn ceisio codi ailgylchu’r cartref cymaint ag sy’n bosibl i weld a oes modd cyrraedd 70 y cant trwy welliannau yn y gwasanaeth a mwy o ailgylchu gwastraff y cartref.    

Beth fydd yn digwydd os fethwn ni’r targed o 70 y cant o ailgylchu? 

Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru ailgylchu 70 y cant o’u sbwriel erbyn 2025 neu wynebu dirwyon. Yn Nhorfaen, gallem ni fod yn wynebu dirwy o £100,000 ar gyfer pob un y cant yr ydym yn brin o’r targed, a byddai hyn yn effeithio ar wasanaethau’r cyngor.  

Pam na wnewch chi ddirwyo pobl sydd ddim yn ailgylchu? 

Rydym yn edrych ar gyflwyno polisi newydd o addysg a gorfodaeth, a fydd yn cael ei ystyried gan gynghorwyr yr haf yma.  Bydd pwyslais Codi’r Gyfradd ar addysgu a chefnogi trigolion a chymunedau i wneud y newidiadau y mae eu hangen.

Beth ydych chi’n ei wneud i leihau nifer y casgliadau ailgylchu sy’n cael eu colli?

Rydyn ni wedi prynu fflyd newydd o 19 o gerbydau ailgylchu ac rydyn ni hefyd yn buddsoddi mewn technolegau newydd i’w rhoi yn y cerbydau. Felly, os ydyn ni wedi methu â chasglu mewn ardal, gallwn anfon tîm allan ar unwaith.

Rydyn ni hefyd yn hyfforddi arweinwyr tîm i fonitro perfformiad, er enghraifft sicrhau bod pob bin yn cael ei gasglu a chynwysyddion yn cael eu dychwelyd at bob eiddo’n ofalus.

Gall ein trigolion ein helpu trwy sicrhau bod biniau a deunyddiau i’w hailgylchu yn cael eu gadael wrth ymyl y palmant cyn 7 y bore ar ddiwrnodau’r casgliadau. Mae gwahanu plastig a thuniau oddi wrth wydr a phapur hefyd yn ein helpu, ac mae gwasgu cardfwrdd i lawr i mewn i’r bagiau glas a’u cau yn helpu hefyd.

Pam nad ydych chi’n casglu plastig ymestynnol?

Rydyn ni’n canolbwyntio ar annog pobl i ailgylchu’r deunyddiau rydyn ni’n eu casglu yn barod wrth ymyl y ffordd.

Ond, rydyn ni’n gweithio gyda Capital Valley Plastics, yng Nghwmafon, i ddarparu mannau gollwng plastig ymestynnol ar draws y fwrdeistref a byddwn yn ail-lansio ein hymgyrch i ailgylchu plastig ymestynnol mewn ysgolion yn yr haf.  Gallwch ddod o hyd i’ch man gollwng agosaf ar ein gwefan.

Beth ydych chi’n ei wneud i annog busnesau i ailgylchu?

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau newydd a fydd yn gofyn i bob busnes, y sector cyhoeddus a mudiadau trydydd sector yng Nghymru i wahanu deunyddiau sy’n gallu cael eu hailgylchu yn yr un ffordd ag y mae mwyafrif yr aelwydydd yn ei wneud nawr. Maen nhw’n ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig.

Dydw i ddim yn hoff o’r syniad o ailgylchu gwastraff bwyd - a fydda’ i’n cael dirwy? 

Mae angen i fwy o bobl ailgylchu gwastraff bwyd os ydyn ni’n mynd i gyrraedd y targed o 70 y cant erbyn 2025.

Cesglir gwastraff bwyd wrth ymyl y ffordd yn wythnosol a gallwch gasglu leinwyr cadis cegin yn rhad ac am ddim er mwyn lleihau’r perygl o ddrewdod. Gallwch hefyd ddefnyddio bagiau plastig untro fel bagiau bara.  Mae cadis cegin yn gallu mynd i’r peiriant golchi llestri. 

Mae’n bosibl i chi gloi’r cadis a gesglir wrth ymyl y ffordd er mwyn atal llygod a phryfed rhag mynd i mewn iddynt.

Mae compostio’n ffordd wych o ailgylchu gwastraff bwyd hefyd. Cewch ragor o wybodaeth ar ein tudalennau compostio.

Dw i’n byw mewn fflat ac nid oes casgliadau ailgylchu yma - beth alla’ i ei wneud?

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig er mwyn darparu cyfleusterau ailgylchu mewn fflatiau.

Erbyn hyn mae gan tua hanner y fflatiau yn Nhorfaen gyfleusterau ailgylchu, ond os nad oes gan eich fflat chi gyfleusterau o’r fath cysylltwch â’ch landlord.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/04/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Ffôn: 01495 762200

Ebost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig