Cyfleuster arfaethedig i ailgylchu deunyddiau a gesglir wrth ymyl y ffordd

Er mwyn parhau i wella gwasanaethau ailgylchu a chyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru, sy’n 70%, mae angen cyfleuster newydd ar y cyngor i ailgylchu deunyddiau. 

Mae'r cyngor yn datblygu cynigion ar gyfer cyfleuster newydd yn Ystâd Ddiwydiannol Kays a Kears, Blaenafon, i ailgylchu deunyddiau a gesglir o’r palmant y tu allan i aelwydydd.  

Pam mae angen safle newydd i brosesi deunyddiau ailgylchu? 

Mae angen cyfleuster newydd oherwydd bod y safle ailgylchu presennol yng Nghwmbrân yn gweithredu i’w gapasiti llawn ac ni ellir ei ehangu. Mae'r adeiladau a'r offer yno hefyd yn agosáu at ddiwedd eu hoes. 

Mae cael yr offer cywir i ddidoli a byrnu'r deunyddiau yn hanfodol i sicrhau ein bod yn gallu ailgylchu'r deunyddiau yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol.   

Bydd safle newydd, mwy o faint, yn cynnig mwy o le, ac yn helpu'r cyngor i ddiwallu’i anghenion ailgylchu yn y dyfodol, gan gynnwys gwasanaethau sydd ar y gorwel, fel casglu ffilm blastig o gartrefi. 

Byddai'r prosiect yn cael ei ariannu trwy gyfuniad o gyllid cyfalaf y cyngor sydd eisoes wedi'i neilltuo ar gyfer y prosiect, cyllid Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig  a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Ni fyddai unrhyw gost ychwanegol i drethdalwyr.

Beth sy'n cael ei ddatblygu? 

Byddai'r cyfleuster arfaethedig yn cael ei adeiladu yn Ystâd Ddiwydiannol Kays a Kears ym Mlaenafon mewn dau gam. 

Cafodd ei ddewis oherwydd ei fod wedi cael ei ddefnyddio o'r blaen ar gyfer gweithgarwch ailgylchu. Mae ganddo fynediad da o’r ffordd fawr ac mae yno ddigon o le yn y tymor hir. 

Cam un

Bydd cam un yn creu mannau storio dros dro ar gyfer deunyddiau ailgylchadwy fel papur a chardbord. Bydd y deunyddiau hyn yn cael eu llwytho ar gerbydau mwy a'u cludo i gyfleuster ailgylchu. 

Bydd y cam dros dro yn sicrhau y gellir parhau i gasglu deunyddiau ailgylchu wrth ymyl y ffordd heb darfu, tra bod safle Cwmbrân yn cau a'r cyfleuster newydd yn cael ei ddatblygu. 

Cam dau

Cam dau yw'r cynllun hirdymor i adeiladu cyfleuster prosesu ailgylchu modern a phwrpasol.  

Byddai hyn yn golygu y gellir didoli deunyddiau ailgylchu a gasglwyd o gartrefi, ei fyrnu a'i storio ar y safle cyn ei anfon i'w brosesu. 

Byddai cael popeth mewn un lle yn cynnig gwasanaeth llawer mwy effeithlon a chynnig mwy o gyfle i gasglu ystod ehangach o ddeunyddiau yn y dyfodol, fel ffilm blastig.  

Mae didoli a byrnu deunyddiau ar y safle hefyd yn bwysig i sicrhau bod y gwasanaeth yn cynnig gwerth da am arian - a dyna pam mai ateb dros dro yn unig yw cam un. 

Ni fydd y prosiect yn mynd yn ei flaen oni bai bod y caniatâd cynllunio yn cael ei gymeradwyo a’r cyllid yn cael ei sicrhau. Ni fyddai unrhyw gost ychwanegol i drethdalwyr. 

Amserlen y prosiect

Haf 2026: Cais cynllunio ar gyfer cam un

Hydref 2026: gwaith dylunio manwl ar gyfer cam dau yn dechrau

Gwanwyn 2027: cais cynllunio ar gyfer cam dau

Bydd mwy o ddiweddariadau yn cael eu hychwanegu wrth i'r prosiect ddatblygu. 

Beth fydd hyn yn ei olygu i drigolion?  

Nid oes unrhyw newidiadau ar unwaith i’r trefniadau casglu deunyddiau ailgylchu o gartrefi. Bydd deunyddiau ailgylchu yn cael eu casglu'n wythnosol.  

Fodd bynnag, unwaith y bydd y cyfleuster newydd ar waith, bydd cyfleoedd i drigolion ailgylchu hyd yn oed mwy o ddeunyddiau wrth ymyl y ffordd. 

Ni fydd y cyfleuster newydd ar agor i'r cyhoedd. Bydd angen i drigolion sydd â deunyddiau ailgylchu ychwanegol ddefnyddio'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd o hyd. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datblygiad arfaethedig, cysylltwch â'r tîm gwastraff ar wasteprojects@torfaen.gov.uk 

Diwygiwyd Diwethaf: 23/06/2026 Nôl i’r Brig