Addysg a Gorfodi

Mae ein tîm addysg a gorfodi yn ymweld ag ardaloedd i wirio bod cartrefi yn defnyddio eu gwasanaeth ailgylchu yn gywir, a ddim yn rhoi gormod o sbwriel allan.  

Os ydyn nhw'n dod o hyd i finiau sydd wedi'u gorlenwi neu sydd â bagiau ychwanegol o sbwriel nesaf iddyn nhw, bydd y tîm yn dilyn proses â 4 cam: 

  1. Bydd yr aelwydydd yn cael taflen wybodaeth Cystadlu â'ch Cymdogion sy'n dweud yn gryno sut i gyflwyno eu gwastraff yn gywir.  
  2. Bydd y trigolyn yn cael ail lythyr os ydyn nhw'n dal i roi gormod o wastraff allan. 
  3. Os ydyn nhw'n dal i gyflwyno gormod o wastraff bagiau du byddan nhw'n cael Hysbysiad Adran 46.   
  4. Os bydd y trigolyn yn dal i roi gormod o sbwriel allan ar ôl cael hysbysiad adran 46, bydd yn cael Hysbysiad Cosb Benodedig o £100. 

Cymorth gydag ailgylchu

Mae help ar gael i aelwydydd mwy o faint, pobl oedrannus, a thrigolion â rhai anghenion meddygol penodol.

Rydyn ni'n cydnabod bod gan rai pobl anableddau meddyliol neu gorfforol sy'n gallu golygu ei bod yn anodd iddyn nhw i ailgylchu. Mae ein tîm Addysg a Gorfodi yn blaenoriaethu dull "ymgysylltu yn gyntaf" a bydd yn nodi pobl sydd ddim yn gallu bod yn rhan o gamau addysgu neu orfodi. Bydd y tîm hefyd yn awgrymu help o fath arall lle bo hynny'n briodol, fel casgliadau â chymorth.

Pam ydych chi'n cyflwyno'r ymgyrch Cystadlu â'ch Cymdogion? 

Mae'n rhaid i ni gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70 y cant neu wynebu dirwyon mawr. 

Bydd codi cyfraddau ailgylchu hefyd yn ein helpu i gyrraedd targedau carbon sero net y llywodraeth.

Mae ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o eitemau sy'n cael eu rhoi mewn biniau â chlawr porffor yn gallu cael eu hailgylchu trwy ein gwasanaeth casglu wythnosol wrth ymyl y palmant, gan gynnwys gwastraff bwyd, cardfwrdd a phapur. 

Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar drigolion sy'n rhoi gormod o wastraff bin â chlawr porffor allan yn gyson, yn hytrach nag ailgylchu.    

Darganfyddwch beth sy'n mynd ym mha fin 

Os ydych chi'n ailgylchu popeth y gallwch chi yn barod, ond mae gennych ormod o sbwriel o hyd, cysylltwch â ni ar 01495 762200.

Sut alla’ i leihau fy ngwastraff?   

Rydyn ni'n darparu gwasanaeth ailgylchu wythnosol, sy'n golygu y gallwch chi ailgylchu gwastraff bwyd, cardfwrdd, plastig, tuniau, gwydr, papur, batris y cartref a thecstilau ar garreg y drws.   

Gallwch hefyd ailgylchu dewis eang o eitemau eraill yn ein Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, yn Y Dafarn Newydd.

Gallwch roi eitemau o ansawdd da nad oes eu hangen arnoch mwyach i Siop Ailddefnyddio y Steelhouse, ger y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, neu unrhyw siopau elusen eraill. 

Gallwch drwsio eitemau trydanol bach fel tostiwr a thegell yn y Caffi Trwsio, ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl. 

Rhagor o wybodaeth am ffyrdd eraill o arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu

Beth os bydd rhywun arall yn rhoi gwastraff yn fy min - a fydda' i'n wynebu camau cyfreithiol? 

Mae'r ymgyrch Cystadlu â'ch Cymdogion yn ceisio helpu pobl i ailgylchu cymaint ag y gallant. Mae'r tîm yno i gefnogi pobl i wneud pethau'n iawn.  

Os ydych chi'n amau bod pobl eraill yn rhoi sbwriel yn eich bin, rhowch wybod i'n tîm. Byddwn yn cymryd camau gorfodi dim ond lle mae tystiolaeth gref fod rhywun yn rhoi gormod o wastraff bin â chlawr porffor allan, yn gyson.  

Sut alla’ i gael rhagor o gynwysyddion ailgylchu?  

Does dim terfyn ar faint o wastraff i'w ailgylchu allwch chi ei roi allan ar gyfer eich casgliadau ailgylchu wythnosol. 

Gallwch gasglu cynwysyddion ailgylchu newydd neu ychwanegol o un o'n hybiau ailgylchu.  

Gall trigolion sy'n cael casgliadau â chymorth neu bobl sydd â Bathodyn Glas ofyn am gael rhywun i ddod â chynhwysydd newydd atyn nhw.

Gofyn am gynhwysydd ailgylchu

A alla' i dalu rhywun arall i gael gwared ar fy sbwriel? 

Mae gan aelwydydd ddyletswydd gofal i fod yn gyfrifol wrth drefnu i wastraff gael ei waredu.  

Os ydych chi'n talu rhywun i gael gwared ar eich gwastraff ar eich rhan, defnyddiwch ddarparwr sgipiau trwyddedig neu gludwr gwastraff cofrestredig addas; gallech chi wynebu camau gorfodi o hyd os darganfyddir bod eich gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon. 

Cyfoeth Naturiol Cymru / Cofrestr cyhoeddus cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 31/10/2025 Nôl i’r Brig