Arogleuon a Gwyntoedd Niwsans Eraill
Beth all Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ymchwilio iddo?
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ddyletswydd o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i ymchwilio a, lle bo angen, cymryd camau i ddelio â niwsans statudol.
Mae niwsans statudol yn cynnwys unrhyw "arogl sy'n deillio o eiddo diwydiannol, masnachol neu fusnes sy'n niweidiol i iechyd neu’n niwsans". Gall niwsans statudol fod yn berthnasol i ymyrraeth â chartrefi ac adeiladau.
Arogleuon o gartref domestig
Nid yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn caniatáu inni ymchwilio i arogleuon o adeiladau domestig fel niwsans arogleuon statudol.
Nid yw arogleuon sy'n tarddu o le domestig, fel arogleuon coginio neu ysmygu (mwg sigaréts neu ganabis), yn cael eu cwmpasu gan y Ddeddf. Os ydych chi'n poeni am arogl canabis o gartref rhywun, yna dylid rhoi gwybod am hyn i Heddlu Gwent.
Fodd bynnag, gellir ymchwilio i arogleuon o adeiladau domestig ar gyfer y materion canlynol:
- Crynoadau gwastraff sy’n cynhyrchu arogleuon
- Arogleuon sy’n dod o gadw anifeiliaid
- Eiddo brwnt neu bryfedog
Gall y materion hyn fod yn dal i fod yn destun camau o dan ddeddfwriaeth wahanol, hyd yn oed os nad ydynt yn "niwsans arogl" o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd.
Gweithdrefn niwsans statudol ar gyfer arogl (Eiddo Diwydiannol, Masnachol neu Fusnes yn unig)
Nid yw presenoldeb arogl yn niwsans statudol yn awtomatig. Ni ellir mesur arogl, ac nid oes lefel benodol lle mae arogl yn dod yn niwsans. Mae'r cemegau sy'n arwain at arogl fel arfer ar lefelau eithriadol o isel ac mae sensitifrwydd i arogl yn amrywio'n sylweddol rhwng unigolion.
Lle bo hynny'n briodol, efallai yr hoffech siarad yn uniongyrchol â'r person neu'r busnes sy'n gyfrifol am yr arogl, gan nad ydynt efallai’n ymwybodol o'r mater.
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol i'r Cyngor am arogl diwydiannol, masnachol neu fusnes, rhaid i chi gysylltu â'r tîm Diogelwch Tai a Diogelu'r Amgylchedd drwy e-bost, ffurflenni cyswllt ar-lein, neu dros y ffôn. Bydd swyddog yn trafod y mater gyda chi ac yn darparu taflenni monitro arogleuon i'w cwblhau dros o leiaf pythefnos.
Ar yr un pryd, byddwn yn hysbysu'r person neu'r busnes sy'n gyfrifol bod cwyn wedi'i gwneud. Mae hyn yn helpu i annog datrysiad anffurfiol cynnar.
Os na fydd unrhyw ffurflenni monitro yn cael eu dychwelyd, ni chymerir unrhyw gamau pellach.
Ar ôl i'r ffurflenni wedi'u cwblhau gael eu derbyn, byddant yn cael eu hadolygu. Os ydynt yn nodi patrwm ailadroddus, bydd swyddog yn ymweld â'r ardal ar sawl achlysur i asesu'r arogl. Nod Cyngor Torfaen yw datrys materion yn anffurfiol lle bynnag y bo modd. Er bod y ddeddfwriaeth yn nodi bod yn rhaid cyflwyno hysbysiad atal pan nodir niwsans statudol, yn ymarferol, ceisir mesurau anffurfiol yn gyntaf bob amser.
Mae ffactorau a ystyrir wrth asesu niwsans statudol yn cynnwys:
- Difrifoldeb
- Natur neu ansawdd yr arogl
- Hyd
- Amlder
- Amser y dydd
- Amodau’r tywydd
- Cymeriad y gymdogaeth
Mae penderfynu a yw arogl gyfystyr â niwsans statudol yn gallu cymryd amser, yn enwedig pan fo’r arogl yn ysbeidiol neu am gyfnod byw. Os nad oes tystiolaeth o niwsans statudol yn ystod ymweliadau swyddogion, bydd yr ymchwiliad yn cael ei gau.
Ni allwn ymchwilio os nad oes modd gwybod tarddiad yr arogl, gan nad oes adnoddau gyda ni i chwilio am darddiadau posibl.
Fel arfer nid oes modd cymryd camau mewn perthynas ag arogleuon o weithgareddau amaethyddol fel taenu tail, gan eu nod fel arfer yn para diwrnod ond rhyw ddiwrnod. Os yw arogl o fferm yn parhau am fwy nag ychydig ddyddiau, efallai y byddwn yn gallu ymchwilio, ond bydd angen lleoliad y caeau a effeithir arnom ni.
Os yw’r tarddiad yn eiddo diwydiannol, masnachol neu fusnes sydd eisoes yn defnyddio’r dulliau mwyaf ymarferol o reoli arogleuon, efallai na fyddwn yn gallu mynnu newidiadau pellach.
Eiddo a reoleiddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
Os yw’r arogl yn dod o eiddo a reoleiddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dylech adrodd y broblem wrthyn nhw’n uniongyrchol. Gellir Cysylltu â nhw yma: Cyfoeth Naturiol Cymru(yn agor mewn tab newydd)
Opsiynau gorfodi
Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth, bydd yr ymchwiliad yn arwain at un o'r camau canlynol:
- Dim camau pellach os na ddangosir niwsans.
- Cyngor anffurfiol i leihau arogleuon lle bo'n rhesymol. Er enghraifft: Os ydych chi'n byw yn agos at waith carthffosiaeth, tir fferm lle mae slyri yn cael ei daenu neu domen sbwriel, efallai y byddwch chi'n gallu arogli'r gweithgareddau hynny o bryd i'w gilydd. Y cyfan y gall y cyngor ei wneud yn yr amgylchiadau hynny yw ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr wneud yr hyn y gallant yn rhesymol i leihau'r arogleuon hynny.
- Rhoi hysbysiad atal os cadarnheir niwsans statudol ac os yw datrysiad anffurfiol yn aflwyddiannus.
- Camau cyfreithiol os na chydymffurfir â hysbysiad atal.
Mae'r holl orfodaeth yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Gorfodi'r Cyngor.
Diwygiwyd Diwethaf: 21/05/2026
Nôl i’r Brig