Listeria

Haint bacteriol yw Listeria sydd yn medru achosi anhwylder tebyg i ffliw, llid yr ymennydd, gwenwyniad gwaed (septicaemia) neu erthyliad naturiol.

O ble y daw'r haint?

Ceir hyd i'r bacteria fel arfer mewn gwartheg, defaid, pridd a silwair. Cafwyd hyd hefyd i'r   bacteria mewn amrywiaeth o fwydydd amrwd yn cynnwys llysiau a chig heb ei goginio yn ogystal â bwydydd wedi'u prosesu. Mae ystod eang o gynnyrch bwyd wedi eu cysylltu ag achosion o'r clefyd, yn cynnwys caws meddal a chynnyrch sy'n cynnwys cig. Ceir hyd iddo'n aml yng ngholuddion pobl.

Beth yw'r cyfnod magu?

Gall fod rhwng 3 a 70 diwrnod ond 3 wythnos ydyw fel arfer.

Sut allaf leihau'r risg o gael yr haint?

  • Golchwch eich dwylo cyn paratoi bwyd ac ar ôl trafod cig amrwd.
  • Glanhewch a diheintiwch arwynebau, offer a chyfarpar cegin yn rheolaidd.
  • Dylai menywod beichiog ac unigolion ag imiwnedd gwan, fwyta seigiau sydd wedi eu coginio'n drylwyr a chynhyrchion llaeth sydd wedi'u pasteureiddio yn unig.
  • Cadwch fwydydd parod i ffwrdd o gig amrwd bob amser.
  • Golchwch salad, ffrwythau a llysiau mewn dŵr glân sy'n llifo.

Beth ddylwn ei wneud os wyf yn dal yr haint?

  • Os yw'r symptomau'n ddifrifol a/neu'n parhau am gyfnod hir, mynnwch gyngor meddygol. Mae'n hynod bwysig bod plant ifanc, menywod beichiog, yr henoed, a'r rheiny sydd eisoes dan oruchwyliaeth feddygol, yn derbyn triniaeth.
  • Os oes aelod o'r cartref yn dioddef o ddolur rhydd a chwydu, gallai'r haint drosglwyddo i eraill.
  • Glanhewch a defnyddiwch ddiheintydd i lanhau'r tŷ bach, dolen y tŷ bach a dolen y drws yn rheolaidd.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn golchi'ch dwylo ar ôl unrhyw gyswllt â pherson heintus
  • Os yw trafod bwyd yn rhan o'ch gwaith, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich goruchwyliwr/rheolwr a Swyddog o'r Tîm Diogelwch Bwyd.
  • Pan fyddwch yn mynd at y meddyg, cofiwch ddweud eich bod yn trafod bwyd, os dyna yw'r achos.

Os oes angen cyngor pellach arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Bwyd, Iechyd a Diogelwch

Ffôn: 01633 648009

Nôl i’r Brig