Campylobacter

Campylobacter spp. yw un o brif achosion gastro-enteritis / gwenwyn bwyd, ac weithiau caiff ei alw'n 'glefyd teithwyr'.

Ffynhonnell

Perfedd y mwyafrif o anifeiliaid domestig ac anifeiliaid gwyllt, yn cynnwys adar.

Gall yr haint ledaenu o anifail i berson ac o berson i berson a gellir ei ddal drwy amlyncu organebau mewn bwyd, fel llaeth heb ei basteureiddio neu ddŵr sydd wedi ei drin.

Salwch

Mae'r cyfnod magu rhwng 3 a 7 diwrnod ond gall amrywio o 1 i 11 diwrnod.

Mae'r symptomau yn cynnwys poen difrifol yn yr abdomen, twymyn, cur pen a phendro i'w ddilyn gan ddolur rhydd difrifol ac weithiau chwydu. Mae'r symptomau yn parhau am rhai dyddiau ac mae'n effeithio'n waeth o lawer ar oedolion nag ydyw ar blant.

Sut i'w atal

  1. Coginiwch fwydydd yn drylwyr yn enwedig cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid.
  2. Cofiwch osgoi ail-halogi bwydydd sydd wedi eu coginio, drwy olchi dwylo ac offer ar ôl trafod bwyd amrwd.
  3. Yfwch laeth wedi ei basteureiddio yn unig. Ni ddylech yfed o boteli os yw adar wedi bod wrthi'n pigo wrth boteli llaeth.
  4. Golchwch eich dwylo ar ôl i chi gyffwrdd ag anifail.
  5. Cadwch fwyd a bowlenni anifeiliaid i ffwrdd o fwyd a llestri'r teulu.

A oes angen i bobl sydd wedi'u heintio gadw i ffwrdd o'r gwaith neu'r ysgol?

Gall y mwyafrif ddychwelyd i'r gwaith neu'r ysgol unwaith y bydd y corff yn dychwelyd i weithio'n arferol am 48 awr ac ar yr amod eu bod yn golchi'u dwylo'n ofalus ar ôl bod yn y tŷ bach.

Rhaid i bobl sy'n trafod bwyd, gweithwyr gofal iechyd a phlant sy'n derbyn gofal dydd gael caniatâd Adran Iechyd yr Amgylchfyd cyn dychwelyd i'w gweithgareddau arferol.

Beth yw'r driniaeth?

Bydd y mwyafrif o bobl yn gwella ar eu penna'u hunain. Mae yfed digon o hylif i osgoi diffyg hylif yn bwysig iawn. Gall bwyta iogwrt 'byw' neu fêl hefyd eich helpu i wella. Defnyddir tabledi gwrthfiotig ar adegau i drin rhai achosion, neu i drin y rheiny sy'n cael ail bwl.

Beth yw Campylobacter?

Campylobacter jejuni yw'r achos mwyaf cyffredin o ddolur rhydd yn y DU. Caiff ei ystyried i fod yn haint sy'n bresennol mewn bwyd neu ddŵr yn hytrach na gwenwyn bwyd. Os yw'r bacteria'n bresennol mewn bwyd nid ydynt yn dueddol o luosi ynddo, ond, ar ôl ei lyncu fe all y bacteria luosi yn y stumog ac achosi haint. Nifer fach o facteria yn unig sydd angen ei hamlyncu cyn i'r' symptomau ymddangos. Mae'r salwch yn parhau am tua wythnos, ond hyd yn oed ar ôl gwella, fe all y claf drosglwyddo'r bacteria yn eu hysgarthion am nifer o wythnosau - fel "cludydd iach". Mae'r heintiadau yn fwy amlwg ar ddiwedd y gwanwyn a dechrau'r haf ac yna yn y gwanwyn. Ni ddeallir y rheswm dros hyn ar hyn o bryd.

Pa fwydydd sy'n cael eu heffeithio?

Mae'r math hwn o wenwyn bwyd nid yn unig yn gysylltiedig â chig a dofednod amrwd, ond hefyd â llaeth sydd heb ei drin, ac anifeiliaid sydd yn cario'r haint. Mae tua 50% o gŵn a chathod yn ysgarthu'r bacteria yn eu tom ac o ganlyniad mae'n halogi cot yr anifail. Dyma'r ffordd y mae pobl yn dod i gyswllt ag ef, yn enwedig plant sy'n anwesu eu hanifeiliaid. Gall bacteriwm campylobacter hefyd fod yn bresennol ar nifer o anifeiliaid fferm, fel gwartheg, defaid ac ieir.

Beth yw'r symptomau?

Symptomau fel ffliw am y 24 awr gyntaf, yn ogystal â chur pen a chyhyrau sy'n brifo, i'w dilyn gan grampiau stumog a dolur rhydd difrifol sydd fel arfer yn parhau o 1-10 diwrnod. Mae'r symptomau'n dechrau rhwng 2 a 10 diwrnod ar ôl bwyta'r bwyd halogedig.

Camau i'w dilyn!

Yn ystod y cyfnod dolur rhydd dylai hylendid personol fod o'r pwys mwyaf a dylid osgoi trafod bwyd. Mae'n hawdd trosglwyddo'r haint i bobl eraill yn ystod y cyfnod hwn

NODWCH: Mae'n hawdd lladd bacteria Campylobacter drwy goginio bwyd yn drwyadl, felly'r hyn sy'n achosi'r risg mwyaf yw bwyta bwydydd amrwd neu fwyd wedi ei goginio sydd wedi eu halogi, naill am ei fod wedi cael ei drafod yn wael neu am fod yr offer yn fudr.

Os hoffech gyngor pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Bwyd, Iechyd a Diogelwch

Ffôn: 01633 648009 / 648095

Nôl i’r Brig