Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd - Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfyngedig y tu allan i oriau i ymdrin â materion iechyd a diogelwch cyhoeddus brys, er na fyddai hyn yn cynnwys materion arferol a all aros tan y diwrnod gwaith nesaf, fel arfer.

Mae'r gwasanaeth yn ymateb i faterion fel damweiniau mawr yn y gwaith lle mae rhywun wedi'i anafu'n ddifrifol neu ei ladd, neu achosion o wenwyn bwyd.

Os ydych yn credu bod argyfwng y dylwn fod yn ymdrin ag ef, gallwch gysylltu â'r gwasanaeth trwy ffonio 01495 762200. Bydd y swyddog sy'n ateb yr alwad yn eich cynghori ynghylch p'un a allwn eich helpu ai peidio.

Os hoffech roi neges i ni, gofyn am wasanaeth neu ofyn i ni ymchwilio i gŵyn ar unrhyw adeg, gallwch anfon neges e-bost atom a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau

Ffôn: 01495 762200

E-bost: commercial.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig